O dan Atodlen 2 Rhan 1 Paragraff 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 ac Erthygl 6(1)(d) GDPR mae’n ofynnol i chi ddarparu’r ddogfennaeth gywir i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn i’r cofnodion gael eu rhyddhau.
Mae'r ffurflenni hyn yn unigryw i bob Heddlu a dylech allu cael y rhain naill ai gan eich Tîm Llywodraethu neu drwy eich Mewnrwyd.
Mae'r Tîm Gwasanaethau Cofnodion ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30 a 16:30. Gellir cysylltu â ni ar 0300 123 2310 neu drwy e-bost ar amb.police@wales.nhs.uk . Ein nod, pan fydd cofnodion ar gael, yw ymateb o fewn 24 awr gwaith (Llun - Gwener).
Os bydd angen ymateb ar unwaith (hy os oes gennych rywun a ddrwgdybir yn y ddalfa a bod eich terfyn amser ar fin dod i ben neu i ddal y sawl sydd dan amheuaeth) ffoniwch 0300 123 2310, fel arall bydd eich cais yn cael ei reoli yn ôl trefn ei dderbyn.
Y tu allan i'r oriau uchod, a dim ond mewn argyfwng, mae opsiwn i ddelio ag un o'r Canolfannau Cyswllt Clinigol yng Nghymru. Os byddwch yn deialu'r rhif uchod byddwch yn cael yr opsiwn i ddewis eich rhanbarth a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo.
Rhaid i bob cais am Ddatgeliad Data am wybodaeth gynnwys:
Rhaid i bob cais gan yr Heddlu am wybodaeth:
Sylwch : Ni fyddwn yn gallu prosesu unrhyw geisiadau gan yr Heddlu am wybodaeth lle nad yw'r manylion a amlinellir uchod wedi'u derbyn gyda'ch cais.
Os yw ar gael, dylid cynnwys y wybodaeth ganlynol hefyd:
Bydd yr holl recordiadau a dogfennaeth yn cael eu hanfon atoch trwy e-bost diogel .