Mae'n ddrwg gennym glywed eich bod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad gydag un o'n cerbydau neu fod difrod wedi digwydd i eiddo a oedd yn cynnwys cerbyd neu aelod o staff Ymddiriedolaeth GIG Brifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth).
Gallwch gysylltu â'r Ymddiriedolaeth ynglŷn â'r mater hwn mewn amrywiol ffyrdd:-
Rachel Marsh
Prif Weithredwr Dros dro
Pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Brifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Tŷ Elwy
Uned 7
Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0LJ
Wrth godi eich hawliad gyda'r Ymddiriedolaeth, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth i'n galluogi i adnabod y digwyddiad a chaniatáu inni ymchwilio i'ch hawliad yn gywir ac yn amserol. Y wybodaeth y bydd ei hangen arnom yn y lle cyntaf yw;
Mae'r Ymddiriedolaeth yn hunanyswiriedig. Byddwn yn delio â hawliadau a dderbynnir mewn perthynas â digwyddiadau traffig ffyrdd a difrod i eiddo personol yn fewnol. Gall yr Ymddiriedolaeth benderfynu cyfarwyddo Cyfreithwyr, ac os felly byddwn yn eich hysbysu. Mae hyn oherwydd bod rhai hawliadau'n fwy cymhleth nag eraill ond ein nod yw delio â materion mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
Fel rwy'n siŵr y byddwch yn sylweddoli, nid yw staff yr Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa ac felly mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn iddynt lenwi ffurflen Gwrthdrawiad Traffig Ffyrdd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl digwyddiad. Gall hyn olygu y bydd peth amser cyn i'r Ymddiriedolaeth gael gwybod am y digwyddiad. Dyma pam rydym yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni.