Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-frys (NEPTS)

Mae cludiant ar gael i gleifion yng Nghymru sydd angen cyrraedd apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys ac sydd ag angen meddygol penodol.

Mae rhan hanfodol o'r hyn a wnawn yn cynnwys cludo pobl o bob cwr o Gymru sy'n methu, am resymau meddygol, â gwneud eu ffordd eu hunain i'w hapwyntiadau meddygol mewn clinigau, ysbytai a chanolfannau dydd ac yn ôl. Mae hyn yn cynnwys:

  • Apwyntiadau cleifion allanol;
  • Triniaeth dialysis ac oncoleg;
  • Canolfan ddydd a chlinigau seico-geriatreg;
  • Derbyniadau a rhyddhau wedi'u cynllunio gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng ysbytai

Mae'r gwasanaeth hwn yn adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sydd ei angen ac yn dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio fel dewis arall yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael cludiant cleifion.

Os nad ydych chi'n gymwys, gweler ein dewisiadau trafnidiaeth amgen.

Mae ein criwiau hyfforddedig iawn yn defnyddio fflyd fodern o gerbydau i wneud tua 700,000 o deithiau bob blwyddyn. Maent yn gweithio ochr yn ochr â'r ysbytai i sicrhau ein bod yn eich cael chi i'ch apwyntiad mor gyfforddus â phosibl.

Mae'r amrywiaeth o gerbydau sydd gennym yn golygu y gallwn gludo ystod eang o gleifion gan gynnwys y rhai sydd angen stretsieri, sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu sydd â symudedd cerdded cyfyngedig.

Mae ein staff gweithredol NEPTS wedi'u hyfforddi i arbenigo yn anghenion ein cleifion sy'n teithio ar ein cerbydau. Mae hyn yn cynnwys cymorth cyntaf, sgiliau gyrru arbenigol, technegau symud a thrin cleifion, cymorth bywyd sylfaenol a gofal cyffredinol i gleifion.

Yn ogystal â'n staff gweithredol ymroddedig, mae nifer fawr o deithiau lle mae cleifion yn gallu teithio mewn car yn cael eu cynnal gan ein tîm ymroddedig o Yrwyr Ceir Gwirfoddol.

Mae'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-frys ar gyfer cleifion ledled Cymru sy'n methu, am resymau meddygol, â gwneud eu ffordd eu hunain i'w hapwyntiadau ysbyty ac yn ôl.

Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sydd ei angen ac yn dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio fel dewis arall yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Noder nad yw angen triniaeth yn golygu'n awtomatig bod angen cludiant. Mae proses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf fynd drwyddi i sicrhau y gellir cynnig y gwasanaeth iddynt.

Edrychwch ar ein dewisiadau trafnidiaeth amgen i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi.