Mae'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-frys (NEPTS) wedi'i gynllunio'n benodol i helpu cleifion yng Nghymru nad ydynt yn gallu teithio i’w hapwyntiadau ysbyty ac yn ôl drwy unrhyw fodd arall am resymau meddygol.
Os nad oes gennych angen meddygol cymwys sy'n eich atal rhag teithio'n annibynnol, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Defnyddiwch NEPTS dim ond os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio a helpwch i sicrhau nad yw’r cleifion sydd ag anghenion meddygol difrifol yn cael eu gadael heb y cludiant hanfodol maen nhw’n dibynnu arno ar gyfer eu gofal.
Os nad ydych chi'n gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth NEPTS, ystyriwch y ffyrdd eraill canlynol o fynychu'ch apwyntiad:
- A allwch chi ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind i fynd â chi?
- Mae Traveline Cymru yn eich helpu i gynllunio'ch teithiau trafnidiaeth gyhoeddus a dod o hyd i'r llwybrau gorau i'r ysbyty. Cysylltwch â My Health Journey
- A allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? NODER: NID YW'R GWASANAETHAU HYN AM DDIM AC EFALLAI Y BYDD ANGEN I CHI DALU. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o’r costau teithio neu’r gost gyfan yn ôl gan eich Bwrdd Iechyd lleol, am ragor o wybodaeth ewch i Gynllun Costau Teithio Gofal Iechyd (HTCS) - GIG
- Ydych chi'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar hyn o bryd neu a oes gennych chi ddefnydd o gar symudedd? Os felly, bwriedir i hyn gael ei ddefnyddio i'ch helpu i deithio i unrhyw apwyntiadau.
- Ewch i'n gwefan GIG 111 Cymru a sgroliwch i lawr i 'Ddim yn gymwys ar gyfer NEPTS?' am opsiynau trafnidiaeth amgen.