Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng ar gyfer cleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu gwneud eu ffordd eu hunain i ac o’u hapwyntiadau ysbyty am resymau meddygol.
Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny sydd ei angen ac sy’n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio fel dull o gyrraedd apwyntiadau oni bai y bernir eu bod yn gymwys i wneud hynny.
Ar gyfer cleifion y canfyddir eu bod yn anghymwys drwy ein proses gymhwysedd, mae rhai opsiynau i'w hystyried isod ar gyfer dulliau eraill o deithio;
A ydych wedi ystyried unrhyw un o’r opsiynau canlynol i gyrraedd eich apwyntiad:
- Gofyn i deulu neu ffrindiau a allant fynd â chi?
- Cysylltwch â'm Taith Iechyd
- Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? (Efallai y gallwch hawlio’r costau yn ôl gan eich bwrdd iechyd lleol)
- Ydych chi'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar hyn o bryd neu'n defnyddio car symudedd? Os felly, bwriedir ei ddefnyddio i'ch helpu i deithio i unrhyw apwyntiadau.
- Ewch i'n tudalen we GIG 111 Cymru a sgroliwch i lawr i 'Ddim yn Gymwys ar gyfer NEPTS?' ar gyfer opsiynau trafnidiaeth amgen.
- Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r costau teithio yn ôl gan eich Bwrdd Iechyd lleol, am fwy o wybodaeth, ewch i: Healthcare Travel Costs Scheme (HTCS) - NHS (www.nhs.uk)
SYLWCH: NID YW'R GWASANAETHAU HYN YN RHAD AC AM DDIM A GALLAI FOD YN GODI TÂL.