Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth

Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi datblygu i fod yn un o'r gwasanaethau ambiwlans mwyaf datblygedig yn glinigol yn y byd, gyda ffocws ar ddarparu gofal a gwasanaeth o ansawdd uchel i'n holl gleifion.

Rydym ar flaen y gad o ran arloesi mewn gofal clinigol heb ei gynllunio. Rydym yn darparu cyngor, cefnogaeth a chyfeirio i filoedd o gleifion y flwyddyn at y gwasanaethau cywir trwy ein gwasanaethau “clywed a thrin”. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth 111 a'n Desg Glinigol. Rydym yn mynd â channoedd o filoedd o gleifion i fan gofal, neu gartref, bob blwyddyn trwy ein Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS).

Mae ein trinwyr galwadau a staff y ganolfan gyswllt glinigol yn delio â mwy na hanner miliwn o alwadau bob blwyddyn, 24/7 a 365 diwrnod y flwyddyn. Ac rydym ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau, gan wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y cyngor a'r cymorth cywir.

Rydym yn gwasanaethu tair miliwn a mwy o bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau ledled y wlad – sef ardal o ryw 8,000 milltir sgwâr, wedi’i gwasgaru ar draws tirwedd drefol, arfordirol a gwledig amrywiol a heriol.

Wedi'i wasgaru dros ardal o 20,640 cilomedr ac yn gwasanaethu poblogaeth o tua 3 miliwn, mae ein hardal amrywiol yn cwmpasu encilion gwledig tawel, cyrchfannau glan môr prysur a bwrdeistrefi trefol mawr. Ond mae ein gwasanaethau amrywiol a modern wedi'u teilwra ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol gwahanol pob cymuned, o feiciau i geir ymateb cyflym, ambiwlansys rheng flaen a nyrsys yn ein canolfannau cyswllt.

Rydym yn mynychu mwy na 250,000 o alwadau brys y flwyddyn, dros 50,000 o alwadau brys ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion nad ydynt yn rhai brys i dros 200 o ganolfannau triniaeth ledled Cymru a Lloegr.

Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf, ac rydym yn cyflogi tua 3,500 o bobl. Mae tua 70% o'n gweithlu yn ein gwasanaethau meddygol brys sy'n cynnwys ein Canolfannau Cyswllt Clinigol, ac mae tua 640 o staff yn gweithio yn ein Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS). Mae ein gwasanaethau sy’n delio â chleifion hefyd yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr sy’n gweithio o fewn ein swyddogaethau corfforaethol a chymorth (tua 500 o staff) a’n gweithlu gwirfoddol estynedig gwerthfawr, gan gynnwys dros 1,000 o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned (CFRs) a thua 300 o Yrwyr Ceir Gwirfoddol.

Rydym yn gweithredu o 90 o orsafoedd ambiwlans, tair canolfan gyswllt, pedair swyddfa ranbarthol a phedwar gweithdy cerbydau.

Mae gennym hefyd ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol ein hunain i sicrhau bod ein staff yn parhau i fod ar y brig ac yn cael datblygiad proffesiynol rheolaidd.

Rydym yn darparu mynediad i hyfforddiant parhaus o ansawdd uchel, cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus rheolaidd ac adolygiadau datblygiad personol blynyddol.

Ni hefyd yw gwesteiwr y gwasanaeth 111, gwasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd 24 awr i'r cyhoedd ac elfennau ymdrin â galwadau pen blaen a brysbennu clinigol gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau.

Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn dweud wrthych bopeth sydd angen i chi ei wybod am y gwasanaeth ambiwlans, p'un a ydych am weithio gyda ni, ymuno â thîm Ymatebwyr Cyntaf neu eistedd ar banel cleifion.

Bwrdd Ymddiriedolaeth WAST

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cyfarfod bob dau fis ac maen cynnwys:…

Dementia

Rydym yn ymateb i anghenion clinigol ac emosiynol pobl sy'n byw gyda…

Cyfarfodydd Pwyllgor

Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu presenoldeb aelodau'r cyhoedd yn ein…

Cyhoeddiadau

Strategaethau a Chynlluniau 2023-2024 Cynllun Tymor Canolig Integredig…

Dyletswydd Ansawdd

Maer ddyletswydd ansawdd mewn grym o 1 Ebrill 2023. Maen berthnasol i…

Ein Perfformiad

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro perfformiad y GIG drwy…

Eich Gwybodaeth Eich Hawliau

Pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi? - I'ch helpu chi.…

Urddas mewn Gofal

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datblygu…

Iechyd Meddwl

Angen help yn gyflym? Ydych chi mewn argyfwng? Mae nifer o linellau…

Diogelu

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydnabod y gall pobl syn dod i…

Trin Pobl yn Deg

Ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 Croeso i Gynllun…

Ymchwil a datblygiad

Mae ein hadran Ymchwil a Datblygu (Y&D) yn cefnogi datblygiad…

Gofalu amdanoch chi mewn amgylchedd glân

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi mabwysiadur athroniaeth syn…

Safonau'r Gymraeg

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i…

Ein Cynllun Digidol

Maer cynllun hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith i…