Neidio i'r prif gynnwy

Dementia

Rydym yn ymateb i anghenion clinigol ac emosiynol pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Bydd bod yn fwy ymwybodol o ddementia yn helpu gwella sgiliau a gwybodaeth ein gweithlu.

Ein gweledigaeth

Rydym yn gweithio tuag at wella’r profiad i’r bobl sy’n byw gyda dementia sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn ogystal ag ystyried yr effaith a gaiff ar ein gweithlu.

Ein nod yw darparu profiad gwell i'n defnyddwyr gwasanaeth a chefnogi'r rhai sy’n cyrchu ein gwasanaethau sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. 

Mae cyd-gynhyrchu yn sail i’n rhaglen dementia, gan arwain at waith gwella arloesol gan gynnwys datblygu amgylcheddau sy’n deall dementia a gofynion synhwyraidd. Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector i gyflawni ein gwaith mewn partneriaeth.

Ymgysylltu â chymunedau dementia

Rydym yn ymgysylltu â gwahanol grwpiau a chymunedau dementia ledled Cymru. Mae hyn yn ein helpu i addysgu pobl am ein gwaith a siarad â phobl am y gwahanol wasanaethau rydym yn eu darparu. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod i mewn i'n cerbydau ac edrych o gwmpas. Mae hyn yn ein helpu i nodi problemau sydd gan y bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn ein hamgylcheddau. Mae adborth gan gymunedau dementia wedi arwain at gyflwyno llawer o welliannau.

Mae cyd-gynhyrchu yn sail i’n rhaglen dementia, gan arwain at waith gwella arloesol gan gynnwys datblygu amgylcheddau sy’n deall dementia a gofynion synhwyraidd.