Mae adborth gan gymunedau dementia wedi arwain at gyflwyno llawer o welliannau y tu mewn i'n cerbydau. Rydym wedi newid lliwiau lloriau a seddi, gan ychwanegu lluniau a delweddau at ffenestri a bleindiau yng nghefn cerbydau. Mae'r ychwanegiadau hyn yn cael eu gosod ar bob cerbyd NEPTS newydd.
Mae prosiect yng Ngheredigion yn edrych i gyflwyno lluniau o ardaloedd o harddwch lleol y tu mewn i'r cerbydau, yn ogystal â cherddoriaeth genre penodol, a llyfrynnau gweithgaredd i gefnogi cleifion ar gludiant ambiwlans.