Yn 2018, rydym wedi datblygodd y Fframwaith Cwympiadau a oedd yn cynnwys y Model Ymateb i Gwympiadau. Cynlluniwyd y Fframwaith i roi eglurder o fewn y sefydliad, a hysbysu partneriaid wrth ystyried cynllunio a gweithredu gwasanaethau lleol sy'n darparu gofal i gleifion sydd wedi cael cwymp
Mae’r Fframwaith wedi arwain at welliannau ac arloesedd sylweddol o fewn yr Ymddiriedolaeth, ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol ac o fewn y sectorau annibynnol. Mae'r hyn a ddysgwyd wedi'i rannu o fewn fforymau lleol a chenedlaethol ac mae wedi bod yn ysgogydd allweddol ar gyfer ffurfio ‘Fframwaith Llywodraethu Ymateb i Gwympiadau Cenedlaethol AACE ar gyfer Ymddiriedolaethau Ambiwlans y GIG’. Mae’r Fframwaith wedi galluogi’r sefydliad i arwain a gweithredu newidiadau trawsnewidiol ar raddfa fawr, gan wella’r ymateb a’r gofal i gleifion sydd wedi cael cwymp. Darllenwch y ddogfen lawn isod: