Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i ni ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd, cleifion a’n cymunedau.

Rydym am i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn ofod ar-lein lle mae pobl yn teimlo y gallant ryngweithio â’n cynnwys a chyda’i gilydd. Gofynnwn i unrhyw un sy’n rhyngweithio â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ddangos cwrteisi, caredigrwydd a pharch at ei gilydd.

Efallai y bydd angen i ni wneud newidiadau i’n hegwyddorion cyfryngau cymdeithasol oherwydd gall pethau newid yn gyflym yn yr amgylchedd ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Mae ein prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael eu cyrchu a’u monitro gan ein Tîm Cyfathrebu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 4:30pm. Mae postiadau hefyd wedi'u hamserlennu i fynd yn fyw y tu allan i'r oriau hyn.

Dyma gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol GIG 111 Cymru fel a ganlyn:

Sylwch na allwn roi cyngor iechyd trwy gyfryngau cymdeithasol. Nid oes gan unrhyw glinigwyr fynediad at ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch y canlynol ar gyfer cyngor clinigol:

  • Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr ble i fynd am gymorth, gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf.
  • Ffoniwch 999 ar gyfer argyfyngau meddygol yn unig.

Os ydych chi’n dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol, nid ydym yn dilyn yn ôl yn awtomatig. Nid yw cael ein dilyn gan ein cyfrifon, defnyddio hashnodau neu grybwyllion yn awgrymu arnodiad o unrhyw fath.

Byddwn yn rhannu neu'n ail-drydar cynnwys sydd, yn ein barn ni, yn ddefnyddiol neu'n ddiddorol i'n cynulleidfaoedd.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Os oes gennych ymholiad i ni, ein nod yw ymateb i'ch neges/sylwad ar yr un diwrnod (yn ystod oriau gwaith). Efallai y bydd adegau pan na allwn gysylltu â chi ar yr un diwrnod - byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.
  • Rydym yn monitro pob cyfeiriad, @atebion, postiadau, sylwadau a negeseuon a anfonir atom yn uniongyrchol. Ni allwn bob amser ateb pob neges unigol a dderbyniwn ond os oes gennych ymholiad y gallwn ei gefnogi, yna byddwn yn cysylltu â chi ac efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth. Efallai y bydd eich ymholiad yn cael ei ateb trwy ein hateb awtomatig felly efallai na fyddwn yn ymateb yn ôl yn yr achos hwn.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i chi anfon neges breifat atom gyda'ch manylion cyswllt, yn enwedig pan nad yw'n briodol i ni ymateb ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gall y person cywir fynd ar drywydd eich cwestiwn neu bryder gyda chi.
  • Byddwn yn trin eich neges gyda'r cwrteisi y byddech yn ei ddisgwyl pe baech yn delio â ni wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Yr hyn na fyddwn yn ei wneud

  • Ni fyddwn yn trafod gofal unrhyw unigolyn trwy gyfryngau cymdeithasol.
  • Nid ydym yn delio â chwynion trwy gyfryngau cymdeithasol gan fod proses i'w dilyn eisoes yn bodoli. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol i wneud cwyn, byddwn yn eich cyfeirio at y dudalen gwybodaeth am gwynion ar ein gwefan: Cwynion a Phryderon.
  • Nid ydym yn ateb cwestiynau clinigol neu feddygol, ond fe wnawn ein gorau i gyfeirio at ble i gael gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth fel y bo'n briodol.

Yr hyn a ofynnwn gennych

  • Gofynnwn i chi fod yn gwrtais ac yn trin eich gilydd gyda pharch wrth ryngweithio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch mai dim ond ceisio helpu y mae'r person sy'n monitro'r cyfrif cyfryngau cymdeithasol ond efallai y bydd rhai ymholiadau na allwn eu cefnogi.
  • Peidiwch â bwlio, aflonyddu, brawychu, difenwi, cam-drin na bygwth unrhyw unigolyn neu sefydliad. Peidiwch â defnyddio geiriau anweddus neu anghwrtais.
  • Peidiwch â phostio sylwadau personol – naill ai i chi neu ein staff. Os oes gennych gŵyn, byddwn yn eich cyfeirio at y broses gwyno gywir: Cwynion a Phryderon.
  • Peidiwch â phostio sylwadau sy'n annymunol neu wedi'u postio gyda'r bwriad o achosi tramgwydd neu frifo.
  • Peidiwch â hysbysebu.
  • Peidiwch â phostio cynnwys sy'n hyrwyddo gwahaniaethu o unrhyw fath
  • Peidiwch â sbamio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Nid yw gwneud yr un pwyntiau drosodd a throsodd - a elwir fel sbamio fel arall - yn rhywbeth yr ydym yn ei oddef ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych gŵyn, dylech godi hyn drwy’r broses gywir: Cwynion a Phryderon.
  • Peidiwch â phostio gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol trwy gyfryngau cymdeithasol

Pryd y byddwn yn gweithredu

Mae gan bawb hawl i rannu eu barn ac ni fyddwn yn dileu postiad dim ond oherwydd ei fod yn negyddol. Fodd bynnag, os teimlwn fod rhyngweithiad yn mynd yn groes i’n hegwyddorion, efallai y bydd angen i ni weithredu:

  • Mae’n bosibl y byddwn yn cuddio neu’n dileu eich sylwad os yw’n yn mynd yn groes i’n hegwyddorion.
  • Bydd unrhyw un sy’n ymgysylltu â ni dro ar ôl tro ac sy’n postio cynnwys sy’n mynd yn groes i’n hegwyddorion yn cael eu rhwystro a/neu eu hadrodd i’r platfform cyfryngau cymdeithasol.
  • Rydym hefyd yn cadw'r hawl i gynnwys sgrinlun a chysylltu â'r heddlu os ydym yn credu bod cynnwys wedi mynd dros drothwy troseddoldeb.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cyfryngau cymdeithasol neu’n teimlo y gallai post fod wedi’i ddileu’n annheg, anfonwch neges e-bost at: WAS.communications@wales.nhs.uk