Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rydym am i'r wefan hon fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws ei ddefnyddio.
Methu â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: WAS.Communications@wales.nhs.uka defnyddio 'Ar gyfer sylw rheolwr y wefan’ fel y llinell bwnc i sicrhau ei fod yn cael ei ailgyfeirio i'r adran gywir.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl F/fyddar, nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1. Rhestrir y 'methiannau cydymffurfio ac eithriadau' isod.
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol
Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth am gleifion er mwyn sicrhau ei bod ar gael yn ddigidol lle bynnag y bo modd, gwyddom fod rhai rhannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi pan fyddwn yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried. Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn amodol ar newid).
Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y materion a restrir uchod, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.
Llywio a chael gafael ar wybodaeth
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Ebrill 2024, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio Papurau’r Bwrdd a Phwyllgorau'r Ymddiriedolaeth.
Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn darparu'r opsiwn i droi is-deitlau ymlaen (mewnosod fideos o ategyn Youtube) o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.
Ar hyn o bryd nid oes gennym fap ffordd hygyrchedd, sy’n dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon, ond rydym yn bwriadu cael map ffordd erbyn mis Rhagfyr 2024.
Fel Tîm Cyfathrebu Digidol bach, ein nod yw archwilio tudalennau gwe presennol y wefan i ddileu neu ddiweddaru cynnwys (PDFs, delweddau, dogfennau, fideos) nad yw’n cydymffurfio â hygyrchedd erbyn mis Ebrill 2025.
Rydym yn bwriadu adolygu fformat pob tudalen we a chynnwys erbyn mis Ebrill 2025 i sicrhau bod y cynnwys ar bob tudalen we lle bo modd yn hygyrch.
Diweddarwyd y datganiad hwn ar 28 Hydref 2024. Bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru ym mis Ebrill 2025.