Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Dronau ar gyfer Ymwybyddiaeth Sefyllfaol

Pwy ydym ni

Mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ("ni", "ein", "ninnau") wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn prosesu data personol wrth weithredu Dronau, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch eich data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data a Thîm Llywodraethu Gwybodaeth WAST drwy e-bost yn AMB_infoGovernance@wales.nhs.uk

Pam rydym yn defnyddio dronau

Mae WAST yn defnyddio dronau i wella ymwybyddiaeth sefyllfaol yn ystod digwyddiadau brys. Mae Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus yn dîm o barafeddygon profiadol sydd wedi'u hyfforddi a'u cyfarparu i ymateb i sefyllfaoedd brys cymhleth a risg uchel. Bydd Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus WAST yn penderfynu'n ofalus a fyddai sefyllfa argyfwng yn elwa o ddefnyddio Drôn. Mae hyn yn helpu ein timau i asesu risgiau, amddiffyn y cyhoedd, a chefnogi ymateb brys diogel ac effeithiol.

Caiff dronau eu defnyddio pan fo angen gweithredol clir yn unig, chyn lleied o ffilm sy’n cael ei recordio sy’n angenrheidiol yn unol â’r digwyddiad. Defnyddir y ffilm i gefnogi ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd, asesu risg, a gwneud penderfyniadau gweithredol. Ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer diagnosis, triniaeth, nac i wneud unrhyw fath o benderfyniadau clinigol.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

Rydym yn casglu neu'n defnyddio'r wybodaeth a ganlyn i ddarparu gofal cleifion fel rhan o ymateb brys. Gall dronau ddal y canlynol:

  • Delweddau neu fideos o unigolion sy’n rhan o ddigwyddiad neu’n agos at ddigwyddiad
  • Cerbydau, adeiladau, neu leoliadau adnabyddadwy
  • Data categori arbennig lle na ellir ei osgoi (e.e., gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n weladwy yn ystod argyfwng)
  • Bydd y Drôn yn dal yr wybodaeth o bwy yn WAST sy'n hedfan ac yn gweithredu'r Drôn.

Nid ydym yn defnyddio dronau ar gyfer monitro arferol, gwyliadwriaeth gyffredinol, na recordio unigolion nad ydynt yn rhan o ddigwyddiad oni bai ei fod yn anochel yn weithredol. Nid yw'r dronau'n dal data sain.

Bydd y drôn hefyd yn casglu data nad yw'n bersonol megis uchder y drôn, cyfesurynnau System Leoli Fyd-eang (GPS), y tymheredd a data amgylcheddol arall.

Mae WAST yn cymryd camau i sicrhau bod unrhyw ddata personol a gesglir yn cael ei leihau i'r lleiafswm a'i brosesu yn unol ag egwyddorion diogelu data.

Sut rydym yn sicrhau eich preifatrwydd

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o fesurau technegol a threfniadol i ddiogelu ffilm drôn a'ch preifatrwydd, gan gynnwys:

  • Systemau storio diogel.
  • Dim ond pan fo angen gweithredol yn cyfiawnhau hynny y caiff dronau eu defnyddio.
  • Mae gweithredwyr wedi'u hyfforddi mewn diogelu data a chyfrinachedd.
  • Dim ond ffilm hanfodol sy'n cael ei recordio (lleihau faint o ddata sy’n cael eu casglu).
  • Mae gweithrediadau drôn yn dilyn Polisi Systemau Teledu Cylch Cyfyng a Gwyliadwriaeth WAST.
  • Dim ond mewn amgylcheddau diogel y caiff ffrydiau byw eu gwylio gan staff awdurdodedig.
  • Mae dyfeisiau a ddefnyddir i gael mynediad at ffilm drôn yn cael eu cadw'n ddiogel yn gorfforol.
  • Mae pob mynediad at ffilm yn cael ei gofnodi a'i archwilio.
  • Gweithdrefnau cadarn adrodd am ddigwyddiadau.

 

Am ba hyd ydyn ni'n cadw ffilm o ddrôn.

Caiff ffilm wedi'i recordio eu storio'n ddiogel am 28 diwrnod oni bai bod rheswm cyfreithlon dros eu cadw am gyfnod hirach (er enghraifft, ar gyfer ymchwiliad).

Ar ôl y cyfnod hwn, caiff y ffilm ei dileu'n ddiogel.

Gyda phwy rydym yn rhannu gwybodaeth

Dim ond pan fo'n angenrheidiol, yn gyfreithlon ac yn gymesur yr ydym yn rhannu ffilm drôn. Gellir rhannu ffilm gyda:

  • Yr heddlu neu wasanaethau brys eraill, lle bo angen i gefnogi ymateb i ddigwyddiad neu i atal neu ganfod troseddau difrifol
  • Cyrff rheoleiddio neu oruchwylio, lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ddarparu gwybodaeth
  • Cynrychiolwyr cyfreithiol, lle mae datgeliad yn angenrheidiol ac yn gyfreithlon (er enghraifft, mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol)

Nid ydym yn rhannu ffilm drôn at ddibenion marchnata, masnachol, na dibenion nad ydynt yn argyfwng.

Mae WAST hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin. Mae hyn yn golygu y byddwn ond yn rhannu gwybodaeth o dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • eich bod wedi rhoi caniatâd (yn benodol neu'n oblygedig at ddiben darparu gofal);
  • mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ei rannu (er enghraifft, trwy orchymyn llys);
  • mae budd cyhoeddus sy’n bwysicach na hynny, fel atal neu ganfod troseddau difrifol; neu
  • bod gofynion Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth am Gleifion) 2002 yn cael eu bodloni.

Caiff unrhyw rannu ei asesu’n ofalus i sicrhau ei fod yn gyfreithlon, yn gyfiawn, ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol.

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, mae WAST yn prosesu ffilm drôn o dan:

  • Erthygl 6(1)(e) – Tasg Gyhoeddus
    Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau ymateb brys statudol WAST.

Lle mae data categori arbennig yn cael ei gasglu, rydym yn dibynnu ar y canlynol:

  • Erthygl 9(2)(g) – Buddiant Cyhoeddus Sylweddol
    Wedi'i gefnogi gan Atodlen 1, Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data llawn wedi'i gwblhau i asesu a lliniaru risgiau diogelu data.

Eich hawliau diogelu data

Os gwnewch gais, rhaid i ni ymateb i chi heb oedi gormodol ac ym mhob achos o fewn mis.

I wneud cais am hawliau diogelu data, cysylltwch ag amb.records@wales.nhs.uk

 

Cwynion

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, gallwch wneud cwyn i ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon â sut rydym wedi defnyddio eich data ar ôl codi cwyn gyda ni, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/make-a-complaint