Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Diogelwch Haf

Gallwch ein helpu ni i'ch helpu chi trwy gymryd gofal a mwynhau misoedd yr haf yn ddiogel. Mae’r galw ar ein gwasanaeth yn tueddu i godi yn ystod yr haf a thra bod ein criwiau ambiwlans, trinwyr galwadau a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed, rydym yn gofyn i’r cyhoedd ddefnyddio ein gwasanaethau’n ddoeth.

Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr ble i fynd am gymorth, gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf.

Gallwch wneud y canlynol:

  • Gwirio symptomau a darganfod beth i'w wneud nesaf
  • Dod o hyd i wybodaeth am gyflyrau cronig ac anhwylderau tymhorol
  • Dod o hyd i wasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys meddygon teulu, fferyllfeydd, neu unedau mân anafiadau
  • Dod o hyd i wybodaeth am gyngor lles a hunanofal