Neidio i'r prif gynnwy

Barbeciw a diogelwch bwyd

Mae tywydd cynnes yn galluogi bacteria i luosi'n gyflymach mewn amodau lle mae arferion hylendid bwyd yn waeth, ac mae pobl yn newid eu harferion bwyta yn ystod misoedd yr haf, yn bwyta mwy o fwyd oer, mwy o fwffes lle mae bwyd yn cael ei adael allan am gyfnodau hir, a mwy o farbeciws.

Wrth ddefnyddio barbeciw i goginio cig, rhaid ei goginio nes ei fod yn chwilboeth drwyddo, dim o'r cig yn binc a'r sudd yn rhedeg yn glir. Wrth farbeciwio i lawer o bobl, efallai y byddai'n ddoeth coginio cig dan do a'i orffen ar y barbeciw i gael blas ychwanegol.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am arweiniad pellach ar ddiogelwch barbeciw.

Sut i ddefnyddio barbeciw yn ddiogel

  • Cadwch fwced o ddŵr/tywod neu bibell ddŵr gardd gerllaw rhag ofn y bydd tân
  • Cadwch y barbeciw i ffwrdd o ffensys gardd, sied, adeiladau, coed a llwyni ac mewn man agored
  • Defnyddiwch y barbeciw bob amser ar arwyneb gwastad
  • Defnyddiwch ddigon o siarcol i orchuddio gwaelod y barbeciw yn unig i ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd)
  • Cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes ymhell o'r ardal goginio.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio petrol a sylweddau fflamadwy i gynnau’r glo barbeciw gan fod perygl y gallai hyn achosi fflach dân