Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch dŵr

Cadwch chi’ch hun a'ch anwyliaid yn ddiogel trwy ddilyn yr awgrymiadau diogelwch dŵr canlynol:

  • Peidiwch â chael eich temtio i fynd i mewn i gronfeydd dŵr, camlesi, llynnoedd ac afonydd i gwlio i lawr. Mae yna beryglon cudd yn llechu o dan yr wyneb fel gweddillion a cherhyntau tanddwr a allai arwain at anaf neu foddi.
  • Dylai plant gael eu goruchwylio bob amser pan fyddant yn y dŵr neu o gwmpas y dŵr a sicrhewch eu bod yn nofio o fewn ardaloedd dynodedig.
  • Byddwch yn gyfrifol os ydych yn nofio neu'n ymweld â'r traeth. Peidiwch â rhedeg, gwthio na neidio ar eraill er mwyn osgoi anaf neu niwed. Os gwelwch rywun mewn trafferth, dywedwch wrth achubwr bywyd neu ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Gwisgwch siaced achub bob amser os ydych allan ar y dŵr.

Gweler gwefan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (neu’r RNLI) am ragor o gyngor diogelwch dŵr