Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch haul a gwres

Gofalwch amdanoch chi'ch hun, eich teulu a'ch ffrindiau wrth dreulio amser yn yr haul yn yr awyr agored. 

Awgrymiadau Diogelwch yn yr Haul

Cadwch eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau’n ddiogel yr haf hwn trwy ddilyn yr awgrymiadau diogelwch haul hyn.

Arhoswch allan o'r gwres 

  • Treuliwch amser yn y cysgod yn ystod yr amseroedd lle mae’r gwres ar ei uchaf (rhwng 11am a 3pm)
  • Osgowch weithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, prosiectau adeiladu gartref (DIY) neu arddio. Os nad yw hyn yn bosibl, gwnewch hynny ar adegau oerach y dydd
  • Defnyddiwch eli haul neu flociau haul i helpu i atal llosg haul
  • Gorchuddiwch eich hun drwy wisgo crys-t neu ddillad llac eraill
  • Gwisgwch het i gysgodi eich pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid
  • Gwiriwch i mewn ar y rhai sy'n agored i effeithiau gwres, yn enwedig yr henoed, plant ifanc a babanod a'r rhai sydd â chyflwr y galon neu gyflwr anadlol fel asthma
  • Peidiwch byth â gadael babanod, plant ifanc neu anifeiliaid mewn cerbyd wedi'i barcio. Gall tymheredd esgyn yn gyflym iawn mewn car sydd wedi'i barcio, ac mae plant dan ddwy oed mewn perygl arbennig o gael trawiad gwres neu orludded gwres.

Pa ffactor eli haul ddylwn i ei ddefnyddio?

Gwnewch yn siŵr bod gan eich eli haul ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 30 o leiaf i amddiffyn rhag UVB ac amddiffyniad UVA 4-seren o leiaf. Gwiriwch ddyddiad dod i ben yr eli haul cyn ei roi ymlaen.

Peidiwch â dibynnu ar eli haul yn unig i amddiffyn eich hun rhag yr haul. Gwisgwch ddillad addas a threuliwch amser yn y cysgod pan fo'r haul ar ei boethaf.

Sut i ddelio â llosg haul

  • Defnyddiwch sbwng i roi dŵr claear ar eich croen neu cymerwch gawod neu fath dŵr claear, yna rhowch eli ôl haul neu chwistrell leddfol ymlaen
  • Arhoswch allan o'r haul nes bydd pob arwydd o gochni wedi mynd
  • Yfwch ddigon o ddŵr i oeri ac atal dadhydradu
  • Bydd poenladdwyr, fel paracetamol neu ibuprofen, yn lleddfu'r boen trwy helpu i leihau llid a achosir gan losg haul

Ceisiwch gymorth meddygol os ydych chi'n teimlo'n sâl neu os yw'r croen yn chwyddo'n wael neu'n pothellu. Ewch i wefan GIG 111 Cymru am ragor o gyngor.

Cwlio i lawr

  • Cadwch yn hydradol trwy yfed digon o ddŵr
  • Cymerwch fath neu gawod dŵr claear, neu sblasiwch eich wyneb â dŵr claear i gwlio i lawr

Gorludded gwres a thrawiad gwres

Fel arfer nid oes angen cymorth meddygol brys ar orludded gwres os gallwch chi gwlio i lawr o fewn 30 munud. Os yw'n troi'n drawiad gwres, mae angen ei drin fel argyfwng.

Gweler gwefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth: GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Gorludded gwres a thrawiad gwres

Gwiriwr symptomau GIG 111 Cymru ar gyfer amlygiad i'r haul a gwres: GIG 111 Cymru - Gwirio Eich Symptomau : Amlygiad Haul a Gwres

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol