Neidio i'r prif gynnwy

Stori Andy

Cafodd y parafeddyg Andy Davies ei adael gydag ysgwydd wedi’i dynnu o’i le pan ymosodwyd arno gan glaf ym mis Mehefin 2021.

Mae Andy, sydd wedi'i leoli yn Llangefni, Ynys Môn, yn cofio: "Roedd y claf yn mynd yn ymosodol ar lafar i'r pwynt lle gwnaethom alw’r heddlu i gael cefnogaeth wrth gefn.

"Wrth i mi geisio ei asesu, fe daflodd fi i'r llawr, gan dynnu fy ysgwydd chwith o’i le yn rhannol.

"Roedd rhaid i mi gael chwe wythnos o ffisiotherapi wedyn i'm helpu i wella o'r anaf.

"Rwy'n gyn-heddlu milwrol felly rwy'n eithaf da am rannu'r pethau hyn, ond nid yw hyn yn golygu y dylem ei dderbyn.”

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.