Neidio i'r prif gynnwy

Stori Darren

Cafodd y parafeddyg Darren Lloyd ei ymosod arno gan glaf ym Mangor, Gwynedd, ym mis Ebrill 2019.

Dywedodd: "Roedden ni wedi cael ein galw i ddyn a oedd wedi cael ei riportio ar ôl cymryd gorddos, felly fe wnaethon ni weinyddu gwrthwenwyn i geisio ei adfywio.

"Pan ddaeth yn ymwybodol, gwnaeth e ddyrnu fi ddwywaith a dweud: ‘Dych chi wedi f***** i fyny hit olaf i.'

"Ces i fy nal yn ddiarwybod, do’n i ddim yn barod amdano.

"Mae cleifion yn ymddiried ynoch, ac rydyn ni'n ymddiried mewn cleifion, felly pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae'n eich dal chi oddi ar eich gwarchod.

"Mae'n eich rhoi chi ar bigau’r drain ac mae'n eich newid chi.

"Mae'n eich gwneud chi'n or-ymwybodol mewn swyddi eraill nawr, ac rydych chi'n cwestiynu popeth llawer mwy.

"’Dych chi'n cwestiynu pam wnaeth hwn ddigwyddodd a beth wnaethoch chi o'i le."

Yn Llys Ynadon Llandudno ym mis Ebrill 2019, cafodd Dion Roberts ei garcharu am 16 wythnos a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £100 i Darren a chostau o £200.

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn