Neidio i'r prif gynnwy

Stori Dylan

Cafodd y parafeddyg Dylan Lloyd Davies anafiadau a newidiodd ei fywyd wedi ymosodiad gan glaf.

Cafodd Dylan ei alw i adroddiadau o drywanu ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, ym mis Rhagfyr 2020, ond wrth fynd i mewn i'r eiddo, daeth i’r amlwg bod y claf yn anghydweithredol.

Ym mhresenoldeb Heddlu Gogledd Cymru, ymosododd y claf ar Dylan yn gorfforol, gan ei adael gydag anaf difrifol i'w ysgwydd.

Meddai Dylan: "Yr adroddiad cychwynnol a gawsom oedd bod dyn wedi cael ei drywanu chwe gwaith, ond pan gyrhaeddon ni yno, doedd dim llawer o waed.

"Roedden ni'n ceisio deall beth oedd wedi digwydd i'r dyn a gwneud asesiad o’r lle, ond fe drodd yn ymosodol, a gweiddi i gael ei adael ar ei ben ei hun.

"Fe wnaeth e sgwario lan ata i felly ro'n i'n rhoi fy llaw allan i greu rhywfaint o le, ond bryd hynny fe wnaeth o fy rygbi taclo fi ar draws yr ystafell, gan fy nghodi yn gorfforol oddi ar fy nhraed.

"Pan geisiais amddiffyn fy hun, fe syrthiodd y ddau ohonom ar ben y ffrâm gwely metel, gydag e yn ganio ar ben fi.

"Dw i wedi bod yn gwneud y swydd yma ers amser hir a ti’n cael chweched synnwyr pan mae rhywbeth ar fin mynd o'i le, ond y peth dychrynllyd yma, do'n i ddim yn cael hwnna fan hyn.

"Do’n i ddim yn teimlo dan fygythiad o gwbl nes ei bod hi'n rhy hwyr."

Fe wnaeth yr heddlu arestio'r claf, ond dim ond yn ddiweddarach fe sylweddolodd Dylan ei fod wedi cael anaf difrifol.

Dywedodd: "Rhwng y sioc a'r adrenalin, roeddwn i'n teimlo'n iawn i ddechrau.

"Es i'n ôl i'r orsaf i'w adrodd a dad-briffio gyda fy nghydweithwyr, yna tra roedden ni ar y ffordd i'r alwad nesaf, sylweddolais nad oeddwn i'n gallu codi fy mraich."

Dywedodd Dylan, oedd yn gorfod gweithio o adref ar ddyletswyddau amgen wedi'r ymosodiad: "Mae fy rhwystredigaeth ar raddfa o 1-10 yn un ar ddeg, a dweud y gwir.

"Parafeddygaeth yw'r swydd dwi wedi bod yn gwneud ers 17 mlynedd, ac mae'r weithred hanner-eiliad yma gan un dyn yn golygu na alla i wneud hynny bellach - alla i ddim helpu pobl.

"Mae natur ein gwaith yn golygu eich bod weithiau'n dod i ddisgwyl ymddygiad ymosodol gan aelodau'r cyhoedd, ond nid yw'n golygu y dylech chi ei gymryd."

Yn Llys Ynadon Caernarfon ym mis Hydref 2021, plediodd Cemlyn Hughes yn euog i ymosod ar weithiwr brys, a chafodd ddedfryd o 11 wythnos o garchar wedi'i gohirio am flwyddyn.

Cafodd orchymyn hefyd i ymatal rhag alcohol am 120 diwrnod a thalu iawndal o £500 i Dylan.

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.