Cafodd Emily Hilton, Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned, ei chafael gan ddyn a geisiodd wedyn ei chusanu ar briffordd brysur yng Nghaerdydd wrth iddi ei asesu ar ôl cwymp.
Dywed y gwirfoddolwr 24 oed ei bod bron â rhoi'r gorau i'w rôl rhag ofn y gallai ddigwydd eto.
Mae Emily wedi ildio ei hawl i fod yn anhysbys, a roddir yn awtomatig i ddioddefwyr troseddau rhywiol, i adrodd ei stori.
Dywedodd: “Yn ystod fy nhair blynedd yn fy mhrofiad gwirfoddoli, does neb erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg i mi o'r blaen.
“Fe wnaeth daro fy hyder yn llwyr.
“Ie, fe gewch chi gleifion sy'n rhwystredig oherwydd eu bod nhw wedi bod yn aros amser hir am gymorth, ond dyma'r tro cyntaf i rywun fod yn dreisgar yn gorfforol tuag ataf.
“Fe wnaeth i mi feddwl tybed a oeddwn i wir eisiau parhau i wirfoddoli.
“Roedd yn bendant yn anodd dod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd, a chreodd yr amser i ffwrdd a ges i wedyn amser i’r gorbryder hwnnw gronni.
“Yn ffodus, ces i gefnogaeth wych gan gydweithwyr a ffrindiau, felly des i’n ôl, ond rwy’n bendant yn fwy ymwybodol nawr o’r risgiau.”
Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn mynychu galwadau 999 yn eu cymuned ac yn rhoi cymorth cyntaf yn y munudau gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd.
Maen nhw cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i roi cymorth cyntaf, gan gynnwys therapi ocsigen a CPR, yn ogystal â defnyddio diffibriliwr.
Emily oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad ar Newport Road, Caerdydd, fis Mawrth diwethaf, ar ôl nifer o alwadau 999 yn adrodd bod dyn wedi cwympo o'i gadair olwyn.
Dywedodd: “Roedd y claf yn glir nad oedd eisiau sylw meddygol, ond roedd eisiau help i fynd adref, felly ffoniais ein hystafell reoli i gytuno ar y camau nesaf.
“Ar ôl i mi siarad â’n timau rheoli a chlinigol, daeth yn gam-driniol ar lafar a bygwth ‘diffodd fy goleuadau’.
“Gofynnais a oedd eisiau i mi adael, ond yna cwynodd ei fod mewn poen.
“Gwnes i gynnig i asesu fe, a dyna pryd wnaeth e gafael ym mhen uchaf fy ngwddf a’m tynnu i mewn, talcen wrth dalcen a thrio fy nghusanu i ar y gwefusau.
“Ces i fy synnu’n llwyr ei fod wedi fy ngafael i yn y lle cyntaf, ond roedd ganddo hefyd fêp yn ei law ac, am eiliad, ro’n i’n meddwl taw cyllell oedd e.
“Digwyddodd y cyfan mor gyflym, ond dywedais, ‘paid â gwneud hynny’ a thynnu i ffwrdd.
“Cyrhaeddodd yr ambiwlans yn fuan wedyn, ac unwaith i mi ddweud wrth y criw beth oedd wedi digwydd, fe wnaethon ni ffonio’r heddlu.”
Bu Rheolwyr Achosion Trais ac Ymosodedd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn Craig Burgess, 48, o Gaerdydd.
Cafodd Burgess ei arestio a'i gyhuddo o ymosodiad rhywiol.
Cafodd ei ganfod yn euog ym mis Mai 2025 a chafodd orchymyn cymunedol yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener (9 Ionawr 2026), sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gynnal gweithgareddau adsefydlu.
Cafodd ddirwy o £60 hefyd, gorchymyn i dalu iawndal o £100 a llofnodi ar gofrestr y troseddwyr rhyw am bum mlynedd.
Dywedodd Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae unrhyw ymosodiad ar weithiwr brys yn annerbyniol, ond yr hyn sy'n gwneud profiad Emily yn arbennig o syfrdanol yw ei bod yn gwirfoddoli ei hamser, heb dâl, i gefnogi ei chymuned.
“Camodd ymlaen i helpu eraill ac yn lle hynny cafodd ei heffeithio gan weithred drais drawmatig a ffiaidd.
“Byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy'n dewis niweidio ein pobl.
“Triniwch weithwyr brys â pharch.”
Ychwanegodd PC James Paget, Swyddog Heddlu De Cymru yn yr achos: “Gall effeithiau seicolegol a chorfforol ymosodiad o’r math hwn fod yn hirhoedlog.
“Ni ddylai neb orfod mynd i’r gwaith gan ofni y byddant yn cael eu trin fel hyn pan fyddant yn gweithio’n galed – hyd yn oed yn gwirfoddoli yn eu hamser eu hunain – i gadw eraill yn ddiogel.
“Roedd gweithredoedd Craig Burgess y noson honno’n ffiaidd.”
Yn 2021, lansiodd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru ei ymgyrch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn mewn ymgais i leihau ymosodiadau ar weithwyr brys Cymru.
Addawwch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.