Neidio i'r prif gynnwy

Stori Gareth ac Ian

Ymosodwyd ar ymarferwyr ambiwlans brys Ian Jones a Gareth Casey gan glaf ym Mhorth Tywyn, cyn iddi droethi yng nghefn eu hambiwlans.

Roedd y cydweithwyr o Sgeti yn trin menyw yr adroddwyd ei bod wedi cwympo yn y stryd a tharo ei phen, cyn iddi ddod yn sarhaus yn eiriol ac yn gorfforol.

Dywedodd Ian: “Roedd hi eisoes wedi taro Gareth yn ystod ein hasesiad cychwynnol, ond aeth mor ymosodol ar y ffordd i’r ysbyty fel bod yn rhaid i ni stopio’r ambiwlans a’i hatal yn gorfforol, er ei diogelwch hi a’n diogelwch ni.

“Dyma’r tro cyntaf a’r unig dro i mi wasgu’r ‘stribed panig’ yn yr ambiwlans fel bod modd recordio popeth ar deledu cylch cyfyng.

“Fe wnaethon ni alw’r heddlu, a gyrhaeddodd o fewn munudau, ond yn y cyfamser, roedd hi’n bygwth troethi yng nghefn yr ambiwlans.

“Yn anffodus, fe wnaeth hi wneud iawn am y bygythiad hwnnw.”

Ychwanegodd Ian, cyn-ddiffoddwr tân gyda’r RAF: “Rwy’n gyn-filwr ac mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion ag ymddygiad heriol, ond mae’n dal yn siomedig bob tro rydyn ni’n cael ein hunain yn y sefyllfaoedd hyn.

“A gawson ni ein clwyfo'n farwol? Naddo, ond y pwynt yw ein bod ni yno i helpu rhywun yn eu hawr o angen, a dyna sut y cawsom ein had-dalu - ymosodiad yw ymosodiad.

“Roedden ni’n fwy rhwystredig gan y ffaith bod yn rhaid i’r ambiwlans gael ei dynnu allan o wasanaeth i gael ei lanhau’n drylwyr, a oedd yn golygu nad oedd ar gael i gleifion eraill y gallai eu cyflwr fod yn fywyd neu’n farwolaeth.”

Dywedodd Gareth, a arferai weithio ym maes diogelwch cyn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans, ei fod wedi dioddef ymosodiad mwy o weithiau yn y swydd hon nag yn ei swydd flaenorol.

“Roedd y claf i’w weld yn iawn gyda ni i ddechrau, ond roedd fel fflic o switsh,” meddai Gareth.

“Wnaeth y dyrnod ddim brifo – ei bygythiadau i ladd wnaeth fy syfrdanu’n fwy.

“Yn anffodus, nid hwn oedd fy ymosodiad cyntaf yn y gwaith.

“Unwaith, ces i fy mrathu a bu’n rhaid i mi gael profion gwaed am chwe mis wedyn i wneud yn siŵr nad oeddwn wedi dal HIV neu Hepatitis.

“Fe effiethiodd arna i yn feddyliol, heb sôn am y straen a roddodd ar fy mherthynas.

“Yn aml rwy’n dod adref a bydd fy machgen naw oed yn gofyn pam fod gennai gleisiau dros fy nghorff i gyd.

“Fel gweithwyr brys, fe ddylen ni allu mynd i’r gwaith a dod adref yn ddianaf.

“Rydw i wedi dod i’w ddisgwyl nawr, ond nid yw’n golygu ei fod yn iawn.”

Ym mis Tachwedd 2024, cafodd Michelle Richards, o Deras y Rheilffordd, Llanelli, ei dedfrydu i dri mis yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i ddau gyhuddiad o ymosod trwy guro gweithiwr brys ac i ddifrod troseddol.