Neidio i'r prif gynnwy

Stori Geoff

Roedd y parafeddyg Geoff Williams angen triniaeth ysbyty ar ôl iddo gael ei alw'n 'c**t' a cael ei boeri arno gan glaf.

Mae Geoff, sydd wedi'i leoli yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, yn disgrifio teimlo'n 'fudr' wedi'r digwyddiad, a wnaeth ei adael yn methu â gweithio gweddill ei shifft.

Dywedodd: "Mae ymosodiad ar un ohonom yn ymosodiad ar bob un ohonom.

"Dwi'n dod i'r gwaith i helpu pobl, ddim i wynebu ymosodiadau.

"Roedd hyn yn teimlo'n bersonol - roedd cymaint o falais."

Roedd Geoff a'i gydweithiwr Matt Baker, technegydd meddygol brys, yn ymateb i argyfwng meddygol yng Nghwmbrân, Torfaen, ym mis Awst 2023.

Dywedodd Geoff: "Pan gyrhaeddon ni yno, roedd y dyn mewn cyflwr cynhyrfus, wedi meddwi yn drwm ac yn ymddwyn yn afreolaidd.

"Fe wnaethon ni ei gael ar gefn yr ambiwlans, ac fe wnaeth yr heddlu ei arestio am fod yn feddw ac yn afreolus.

"Fe ges i e ar y stretcher ond roedd e'n mynd yn ymosodol ac yn achosi stŵr.

"Y funud nesaf, dywedodd ‘Ti’n c***t' a phoeri yn fy wyneb.

"Yr unig ffordd y galla i ddisgrifio sut roeddwn i'n teimlo yw budr, yn hollol fudr.”

Aeth Geoff a Matt â'r dyn i'r ysbyty, lle cafodd Geoff ei lygaid wedi fflysio a rownd o waed brys.

Meddai Geoff: "Gydag unrhyw ymosodiad yn ymwneud â hylifau corfforol, mae'r risg yn enfawr.

"Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus am bethau fel hepatitis, twbercwlosis a Covid-19.

"Roedd cael fy llygaid wedi fflysio yn golygu na allwn i yrru, a oedd yn ei dro yn golygu nag o’n i’n gallu gorffen fy siifft, a phan fydd ambiwlans yn cael ei dynnu oddi ar y ffordd, gall hynny gael effaith enfawr ar ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn cymuned fach.

"Mae fy ngwraig Hollie yn barafeddyg yng Nghasnewydd, ac fe gafodd hi'r alwad y mae’r ddau ohonom yn ei ofni, yn rhoi gwybod bod y llall wedi dioddef ymosodiad.

"Roedd hi'n gyfnod anodd."

Dechreuodd Geoff ei yrfa ambiwlans fel ymatebwr cyntaf cymunedol gwirfoddol, gan gymhwyso wedyn fel technegydd meddygol brys a pharafeddyg.

Yn ei yrfa wyth mlynedd, hwn oedd ei drydydd ymosodiad.

"Mae'n bendant yn eich gwneud chi'n fwy ymwybodol o bethau," meddai.

Bydd y profiad hwn bob amser yng nghefn fy meddwl nawr pan fyddaf yn trin cleifion eraill."

Yn Llys Ynadon Casnewydd ym mis Hydref 2023, plediodd Curtis Card yn euog i ymosod drwy guro gweithiwr brys, bod yn feddw ac yn afreolus mewn man cyhoeddus a meddu ar gyffur a reolir Dosbarth B.

Gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £100 i Geoff a chafodd orchymyn cymunedol hefyd, gan gynnwys cyrffyw tri mis a gofyniad adsefydlu 10 diwrnod.

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.