Cafodd yr ymarferydd ambiwlans brys Joanne Jones ei phenio dwywaith gan glaf, a oedd hefyd yn ei gadael â thrwyn gwaedlyd.
Mae’r ymosodiad yn 2023, ynghyd â chyfres o rai eraill – gan gynnwys digwyddiad ‘dychrynllyd’ o gam-drin geiriol ym mis Mehefin 2024 – wedi gadael y fam i ddau o blant yn methu â gweithio ac yn angen cwnsela.
Dywedodd Joanne: “Fy nod yw dod yn ôl i’r gwaith, ond mae meddwl amdano yn dal i wneud i mi deimlo’n sâl yn gorfforol.
“Dwi’n teimlo’n dwp ac fel fy mod i’n siomi pawb, ond dydw i ddim yn barod eto.”
Roedd Joanne, sy’n hyfforddi i fod yn barafeddyg, ar leoliad yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Gorffennaf 2023 pan aeth claf yr oedd hi’n ceisio’i gynorthwyo i fod yn ymosodol.
Mae hi'n cofio: “Roedden ni newydd ei drosglwyddo i droli ysbyty pan bu iddo ymgordeddu yn y tiwbiau a'r gwifrau amrywiol.
“Wrth i mi geisio ei ddatrys, aeth yn ymosodol a dechreuodd ddyrnu o gwmpas.
“Dyna pryd symudodd ei ben yn ôl a mynd nerth ei draed, gan fy mhenio i ddwywaith, a pharhau i ddyrnu a chicio allan nes bod aelodau eraill o staff yn gallu ei atal.
“Roeddwn i’n gallu teimlo fy wyneb yn chwyddo, felly roedd yn rhaid i mi fynd i’r adran achosion brys fel claf.
“Wrth i mi sgwrsio â’r nyrs brysbennu, ffrwydrodd fy nhrwyn â gwaed.”
Rhoddwyd cyffur lleddfu poen i Joanne a chafodd ei hanfon am belydr-x, a ddatgelodd doriad bach posibl yn ei gên.
Dywedodd Joanne, sy’n cael ei chefnogi gan ei phartner John Paul Jones, ymarferydd ambiwlans brys yn y Rhyl: “Doeddwn i ddim yn medru bwyta nac yfed am ddyddiau wedyn.
“Hyd yn oed nawr, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, does gen i ddim teimlad yn ochr dde fy wyneb, gan gynnwys yn fy ngwefus waelod.
“Ar ôl hynny, ces i rediad anlwcus iawn o drais ac ymddygiad ymosodol, a arweiniodd at ddigwyddiad brawychus fis Mehefin diwethaf pan fygythiodd claf fy lladd, sef y gwelltyn olaf.”
Cafodd Joanne ddiagnosis o anhwylder straen wedi trawma ac mae wedi cael cwnsela rheolaidd, gan gynnwys therapi amlygiad hirfaith i geisio goresgyn y trawma.
Yn Llys Ynadon Llandudno ym mis Ionawr 2025, dedfrydwyd Bradley Roberts, 24, o Landrillo-yn-Rhos, i 52 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 24 mis, ar ôl cyfaddef ymosodiad a achosodd niwed corfforol gwirioneddol (ABH), a gorchmynnwyd iddo hefyd dalu iawndal o £400 i Joanne.