Neidio i'r prif gynnwy

Stori Julie

Penderfynodd y parafeddyg Julie Owen adael ei swydd ar ôl iddi gael ei cham-drin ar lafar a’i phoeri arni.

Dywedodd Julie fod yr ymosodiad gan ferch y claf yn Shotton, Sir y Fflint, wedi ei gadael hi'n 'or-ymwybodol' o fygythiadau ac nad oedd ganddi ddiddordeb bellach yn y swydd yr oedd hi unwaith yn ei charu.

Dywedodd: "Rydw i wedi dioddef trais ac ymddygiad ymosodol o sawl math dros fy ngyrfa 20 mlynedd, a dw i’n credu mai dyma'r un olaf rwy'n barod i ddelio ag ef.

"Maen nhw'n adeiladu i fyny ac i fyny, ac un diwrnod yn mynd yn ormod.

"Roeddwn i'n ofni am fy mywyd y noson honno, ac roedd yr effaith arna i yn rhywbeth doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl.

"Ydy mynd adref mewn un darn yn ormod i'w ofyn?"

Roedd Julie a'i chydweithiwr Emma Griffiths, technegydd meddygol brys, yn ymateb i argyfwng meddygol pan aeth merch y claf yn ymosodol.

Dywedodd Emma: "Roedden ni'n gallu clywed gweiddi a sgrechian hyd yn oed cyn i ni fynd i mewn i'r eiddo.

"Wrth i ni geisio trin y claf, fe wnaeth ei merch wrthwynebu i'r ffaith ein bod wedi gofyn iddi beidio â chynnau sigarét o amgylch y silindr ocsigen, sy'n fflamadwy.

"Ar un adeg fe geisiodd hi flocio'r drws gyda'i llaw, a phan ofynnais iddi symud, dechreuodd weiddi am ba mor ddiwerth oedden ni a galw fi'n ‘blonde bimbo’,

"Roedd hi'n neidio i fyny ac i lawr fel person gwallgof a doedd dim atal arni.

"Rydw i wedi cael fy ngham-drin ar lafar lawer gwaith dros fy ngyrfa, ond hwn oedd fy ymosodiad corfforol cyntaf.

"Fe wnaeth fy ysgwyd gan ein bod ni yno i helpu.

"Ni ddylai bwlio fyth fod yn rhan o'r gwaith."

Dywedodd Julie: "Roedd hi'n ymosodol ar lafar drwyddi draw, a phan aethon ni i gael moddion lleddfu poen i'w mam, fe ddaeth hi'n ymosodol yn gorfforol hefyd.

"Fe daflodd hi wydr a phoeri aton ni, a dod reit i fyny yn ein hwynebau yn ceisio dyrnu ni."

Galwodd Julie ac Emma am yr heddlu wrth gefn a chafodd merch y claf ei harestio.

Dywedodd Julie: "Diolch byth bod yr heddlu wedi ymateb mor gyflym a dod i'n cymorth.

"Mae'n annerbyniol ymosod ar unrhyw weithiwr brys - maen nhw yno i helpu.

"Dw i’n caru fy swydd fel parafeddyg ond ers i'r digwyddiad golli diddordeb ynddo a dw i’n or-ymwybodol o'r hyn y gallwn fod yn ei wynebu yn y gymuned.

"O ganlyniad, dw i wedi penderfynu hongian fy esgidiau i fyny a cheisio rôl arall yn y gwasanaeth sy'n golygu y bydda i’n cael llai o gyswllt wyneb yn wyneb â chleifion.

"Mae'n ffordd drist iawn i mi ddod â fy ngyrfa fel parafeddyg i ben."

Yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ym mis Chwefror 2024, cafodd Kirsty Walker ei charcharu am 20 wythnos ar ôl cyfaddef tair trosedd o ymosod ar weithiwr brys ac un o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol neu ymosodol.

Gorchmynnwyd iddi hefyd dalu £50 mewn iawndal i bob un o'i dioddefwyr.

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn