Neidio i'r prif gynnwy

Stori Lisa

Cafodd y parafeddyg Lisa O'Sullivan ei phoeri arni gan glaf yn ystod brig y pandemig Covid-19.

Cafodd Lisa, sydd wedi'i lleoli yn Blackweir, Caerdydd, hefyd ei cham-drin ar lafar gan y claf wrth iddi geisio ei drin yn Sgwâr Callaghan yn y ddinas ym mis Awst 2020.

Yn ffodus, roedd swyddogion Heddlu De Cymru eisoes yn y fan a gwnaethon nhw arestio’r dyn.

Cafodd ei ddedfrydu i 14 wythnos yn y carchar yn ddiweddarach.

Mae Lisa yn cofio: "Roeddwn i wedi cael fy ngalw i adroddiadau bod dyn yn cael trawiad ar Sgwâr Callaghan.

"Roedd yn alwad 'Coch' flaenoriaeth uchel felly fe wnes i fy ffordd yno ar oleuadau a seirenau.

"Wrth i mi drio asesu fe, wnaeth e rhegi a galw fi'n 'f*****g c***t.'

"Gwnes i drio tawelu'r sefyllfa trwy ddweud fy enw wrtho ac egluro beth oeddwn i'n trio gwneud, ond yna wnaeth e boeri arna i, a wnaeth taro fy wyneb a fy mraich.

"Fel arfer, fyddwn i ddim yn cael fy synnu gan rywbeth fel hyn ond ro’n i wedi fy syfrdanu ganddo.

"Roedden ni yng nghanol y pandemig, ac er fy mod i'n gwisgo cyfarpar diogelu personol, doedd gen i ddim syniad a oedd ganddo Covid-19, heb sôn am ba glefydau eraill a gludir yn y gwaed y gallai fod yn eu cario.

"Roedd yn drawmatig, roeddwn i'n teimlo'n hurt.

"Roeddwn i yno i'w helpu a dyna sut y gwnaeth e fy nhrin."

Yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Mai 2021, plediodd Daryl Robins yn euog i ymosod ar Lisa yn groes i adran 39 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac Adran 1 Deddf Ymosod ar Weithwyr Brys (Troseddau) 2018, a chafodd ei ddedfrydu i 14 wythnos yn y carchar.

Dywedodd Lisa: "Roeddwn i'n teimlo rhyddhad pan glywais am ei ddedfryd i fod yn onest.

"Dwi’n falch bod cyfiawnder wedi'i weini, a bod y llysoedd wedi cymryd hyn o ddifrif.

"Ro’n i'n teimlo'n nerfus am ychydig ar ôl y digwyddiad, yn enwedig rydw i allan fel ymatebwr unigol.

"Dim ond am gyfnod byr bu’r ymosodiad yn para - roedd e drosodd mewn mater o funudau, ond mae'r effaith yn aros gyda chi."

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.