Torrodd y parafeddyg Rhys Morgan ei arddwrn pan gafodd ei wthio gan glaf yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Dywed Rhys, sydd â scoliosis – crymedd o'r asgwrn cefn – fod ei gyflwr wedi dirywio o ganlyniad i'w gwymp.
Bu rhai i’r tad i ddau, sydd wedi'i leoli yn Y Bont-faen, Bro Morgannwg, cymryd wyth mis i ffwrdd o'r gwaith i wella, ac yn ystod y cyfnod hwnnw nid oedd e’n gallu gyrru na chwarae gyda'i blant.
Yn ddiweddarach, datblygodd gor-bryder.
Meddai Rhys: "Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn weithred hanner-eiliad, ond dwi’n dal i deimlo'r effaith fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Mae bod yn barafeddyg yn dod â rhai risgiau, ond does neb yn haeddu hyn.
"Dwi nawr yn meddwl 'beth os?' yn gyson, rhag ofn y bydd yn digwydd eto."
Ym mis Ionawr 2022, roedd Rhys a chydweithiwr yn ymateb i glaf benywaidd.
Dywedodd Rhys: "Dechreuodd yng nghefn yr ambiwlans gan fy mod yn rhoi moddion lleddfu poen.
"Fe wnaeth y claf bwrw fi, a ches i anaf gan nodwydd yn y broses, sy'n beryglus ynddo'i hun.
"Wedyn ar ôl i ni fynd â hi i'r ysbyty ac yn paratoi i adael, fe daflodd ei hun oddi ar y gwely, gafael yn fy arddwrn, yna gwthio fi drwy ddrws, lle nes i daro'r llawr eto.
“Cymerodd dri swyddog diogelwch ac un rheolwr ar ddyletswydd i’w hatal.
"Ro’n i'n poeni am fy nghefn i ddechrau, ac es i lan i gael sgan MRI lle cadarnhaodd y meddygon fod fy nghyflwr cyn-bresennol wedi gwaethygu o ganlyniad i’r cwymp.
"Dim ond y diwrnod canlynol daeth y boen yn fy arddwrn yn fwy amlwg, a chadarnhaodd ail sgan MRI fod gen i scaphoid wedi torri - arddwrn wedi torri."
Cafodd Rhys ei ragnodi cyfuniad o gyffuriau lleddfu poen, oedd yn golygu na allai yrru.
"Roeddwn i mewn cymaint o boen ar hyn o bryd, do’n i ddim hyd yn oed yn gallu cicio pêl-droed gyda fy mab," meddai.
"Rydw i’n falch o fod yn ôl yn y gwaith, ond ni alla i wneud popeth o’n i’n arfer ei wneud o'r blaen.
"Mae peidio â gallu gwneud yr holl waith codi a chario weithiau’n golygu bod angen i mi alw am gymorth os yw'n glaf mwy neu'n faich anodd.
"Mae gan hynny oblygiadau wedyn i'r gwasanaeth ehangach, oherwydd mae'n adnodd allai fod yn helpu claf arall.
"Mae'r gefnogaeth dwi wedi ei gael gan y sefydliad wedi bod heb ei ail, ond y gwir yw fy mod i'n teimlo'n gyson ar bigau’r drain rhag ofn iddo ddigwydd eto.
"O'r blaen, doedd y math yma o beth ddim yn boddro fi, ac ro’n i'n gallu gwasgaru sefyllfaoedd yn eithaf cyflym, ond nawr dwi'n bendant yn fwy pryderus."
Yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Mai 2023, plediodd Lauren Barnett yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod ar weithiwr brys.
Cafodd ddedfryd o bedwar mis o garchar am ymosod ar Rhys a dedfryd o ddau fis o garchar am ymosodiad ar wahân ar weithiwr ambiwlans arall, wedi'i ohirio am 12 mis.
Gorchmynnwyd iddi dalu £100 o iawndal i Rhys a'i gydweithiwr a chostau o £85, yn ogystal â mynychu 20 diwrnod o weithgarwch adsefydlu.
Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn