Nod ymgyrch flynyddol yr Ymddiriedolaeth a gynhelir drwy gydol mis Hydref yw addysgu disgyblion ysgolion cynradd am y defnydd cywir o 999, beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ffonio, a sgiliau achub bywyd gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a sut i ddefnyddio diffibriliwr.
Dan arweiniad y tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned (PECI), mae gwirfoddolwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth, cydweithwyr byrddau iechyd lleol a myfyrwyr meddygol yn rhoi o’u hamser rhydd i ymweld ag ysgolion ledled Cymru.
Eleni rhagwelir y bydd dros 3,000 o ddisgyblion ar draws 35 o ysgolion yn cael eu haddysgu ynghylch priodoldeb 999, y pum gwasanaeth brys sydd ar gael a sgiliau achub bywyd; safle adfer, CPR dwylo yn unig a defnyddio diffibriliwr.
Dywedodd Fiona Maclean, Rheolwr PECI ac Arweinydd Shoctober: “Fel Ymddiriedolaeth Ambiwlans, rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, un yw Erthygl 28 ‘Yr hawl i addysg’.
“Rydyn ni’n gobeithio, trwy addysgu’r genhedlaeth nesaf beth i’w wneud tra bod cymorth ar y ffordd, yn helpu i adeiladu cymunedau gwydn.
“Mae ymgyfarwyddo disgyblion o oedran ifanc hefyd yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o beidio â chynhyrfu os bydd argyfwng yn codi.”
Yn 2020, o ganlyniad i’r pandemig, crëwyd fideo addysgol ‘Shoctober’ wedi’i anelu at blant ac mae ar gael yn Saesneg , Cymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mae'n bwysig bod diffibrilwyr newydd a phresennol yn cael eu cofrestru ar The Circuit fel bod y rhai sy'n delio â galwadau 999 yn gallu rhybuddio galwyr yn gyflym ac yn hawdd i'w lleoliad os oes angen.