Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS)

Mae cludiant ar gael i gleifion yng Nghymru sydd angen cyrraedd apwyntiadau Di-argyfwng sydd ag angen meddygol penodol.

 

Mae rhan hanfodol o’r hyn a wnawn yn cynnwys cludo pobl o bob rhan o Gymru nad ydynt yn gallu am resymau meddygol, i wneud eu ffordd eu hunain i’w hapwyntiadau meddygol ac oddi yno mewn clinigau, ysbytai a chanolfannau dydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Apwyntiadau cleifion allanol;
  • Triniaeth Dialysis ac Oncoleg;
  • clinigau canolfan ddydd a seico-geriatrig;
  • Derbyniadau a rhyddhau cynlluniedig gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng ysbytai

Mae'r gwasanaeth hwn yn adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sydd ei angen ac sy'n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cludiant cleifion.

Os nad ydych yn gymwys, gweler ein hopsiynau trafnidiaeth amgen.

Mae ein criwiau tra hyfforddedig yn defnyddio fflyd fodern o gerbydau i wneud tua 700,000 o deithiau bob blwyddyn. Maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r ysbytai i sicrhau ein bod ni'n mynd â chi i'ch apwyntiad mor gyfforddus â phosibl.

Mae’r ystod o gerbydau sydd gennym yn golygu y gallwn gludo ystod eang o gleifion gan gynnwys y rhai sydd angen stretsier, sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sydd â symudedd cerdded cyfyngedig.

Mae ein staff gweithredol NEPTS wedi’u hyfforddi i arbenigo yn anghenion ein cleifion sy’n teithio ar ein cerbydau, gan gynnwys cymorth cyntaf, sgiliau gyrru arbenigol, technegau symud a thrin cleifion, cymorth bywyd sylfaenol a gofal cyffredinol i gleifion.

Yn ogystal â’n staff gweithredol ymroddedig, mae nifer fawr o deithiau lle mae cleifion yn gallu teithio mewn car yn cael eu cyflawni gan ein tîm ymroddedig o Yrwyr Ceir Gwirfoddol.

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng ar gyfer cleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu gwneud eu ffordd eu hunain i ac o’u hapwyntiadau ysbyty am resymau meddygol.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny sydd ei angen ac sy’n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Sylwch nad yw angen am driniaeth yn awtomatig yn golygu bod angen cludiant. Mae yna broses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf fynd drwyddi er mwyn sicrhau y gellir cynnig y gwasanaeth iddynt.

Gwiriwch ein hopsiynau trafnidiaeth amgen i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi.