Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau Trafnidiaeth Amgen

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng ar gyfer cleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu gwneud eu ffordd eu hunain i ac o’u hapwyntiadau ysbyty am resymau meddygol.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny sydd ei angen ac sy’n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio fel dull o gyrraedd apwyntiadau oni bai y bernir eu bod yn gymwys i wneud hynny.

Ar gyfer cleifion y canfyddir eu bod yn anghymwys drwy ein proses gymhwysedd, mae rhai opsiynau i'w hystyried isod ar gyfer dulliau eraill o deithio;

A ydych wedi ystyried unrhyw un o’r opsiynau canlynol i gyrraedd eich apwyntiad:

  • Gofyn i deulu neu ffrindiau a allant fynd â chi?
  • Cysylltwch â'm Taith Iechyd
  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? (Efallai y gallwch hawlio’r costau yn ôl gan eich bwrdd iechyd lleol)
  • Ydych chi'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar hyn o bryd neu'n defnyddio car symudedd? Os felly, bwriedir ei ddefnyddio i'ch helpu i deithio i unrhyw apwyntiadau.