Neidio i'r prif gynnwy

Llechi RITA

Rydym yn cynnig therapi hel atgofion i gleifion dementia, gan gefnogi’r bobl a allai ddod o dan straen ac yn orbryderus yn ein hamgylcheddau, trwy ddefnyddio llechen RITA. Rydym yn derbyn adroddiadau diogelwch, adborth staff a chleifion lle mae ein hamgylcheddau gan gynnwys cerbydau, prosesau, a rhyngweithio staff yn cael effaith ar brofiadau a chanlyniadau'r bobl sy'n byw gyda dementia pan fyddant yn ein gofal. Gall diffyg cyfathrebu, tawelu meddwl a chymorth, yn enwedig mewn argyfwng, fod yn drallodus, dryslyd ac achosi orbryder.

Mae Gweithgareddau Therapi Rhyngweithiol Atgofion (RITA) yn ddatrysiad digidol sy’n defnyddio therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu rhyngweithiadau mwy ystyrlon â chleifion dementia. Ymhlith y gweithgareddau mae cerddoriaeth, ymlacio, gemau, ffilmiau a mwy. Gwyddom fod y cyfleoedd hyn yn cefnogi cleifion a gofalwyr ar daith hir, ar oedi hir y tu allan i’r ysbyty neu’r rhai sydd ond angen tynnu sylw oherwydd diflastod, trallod, dryswch neu boen. 

Astudiaethau achos yn dangos effaith RITA:

  • Wrth aros yn yr ambiwlans, roedd y claf yn mwynhau chwarae gemau a gwrando ar gerddoriaeth a oedd yn dod ag atgofion da yn ôl, ac yn caniatáu i’r claf ganu, gan gofio'r rhan fwyaf o'r geiriau.
  • Roedd y claf wrth ei fodd yn gwrando ar gerddoriaeth a hymian. Roedd y claf yn aflonyddu wrth aros ond unwaith i ni ddechrau defnyddio'r llechen, roedd ei hwyl wedi setlo.
  • Gwnaethon ni gefnogi rhywun â dementia cymysg a oedd wedi torri ei chlun. Chwaraeodd gêm riff cwrel 360° ryngweithiol a wnaeth dynnu ei sylw yn rhyfeddol yr holl ffordd i'r ysbyty.
  • Roedd dyn â chlefyd Alzheimer yn hynod orbryderus ar y ffordd i'r ysbyty, ond daeth yn llawer tawelach ar ôl gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, a gwnaethon ni chwarae drwy gydol y daith, hyd yn oed wrth fynd i'r sgan CT. Roedd y dyn yn dawelach ac nad oedd e wedi cynhyrfu gymaint â phan gyrhaeddon ni. Roedd ei ysgwyd wedi stopio ac wedi gwneud y sgan CT gymaint yn haws.