Mae llawer o sefydliadau'r GIG fel Ysbytai, Meddygon Teulu, Deintyddion, Optegwyr a Fferyllwyr Cymunedol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl Cymru.
Nod y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yw rhoi'r gofal o'r ansawdd uchaf i chi. I wneud hyn, rhaid i ni gadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal a ddarparwn i chi. Rydym yn cadw eich gwybodaeth ar gyfrifiadur neu mewn cofnod ysgrifenedig, weithiau mae yn y ddau. Mae'r cofnodion hyn yn helpu i arwain a rheoli'r gofal a gewch. Mae hyn er mwyn sicrhau bod:
Pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei brosesu yn unol ag o leiaf un o'r seiliau cyfreithiol sydd ar gael i ni o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch daflen GIG Cymru 'Eich Gwybodaeth Eich Hawliau' .
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cleifion .
Nodyn: Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac wedi cael triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu'n ôl i GIG Cymru i'w dilysu a'i chydgrynhoi â'ch gwybodaeth a gedwir yng Nghymru. Bydd y Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth yn defnyddio'r wybodaeth honno i'ch adnabod chi a dilysu pa ofal a ddarparwyd.