Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cynllun Digidol

Rydym wedi cymryd camau breision wrth groesawu technolegau digidol i wella’r modd y darperir gwasanaethau, profiad y claf ac effeithlonrwydd gweithredol. Fodd bynnag, mae natur gyflym arloesi digidol a’r heriau esblygol ym maes gofal iechyd yn golygu bod angen adnewyddiad rhagweithiol a strategol o’n Cynllun Digidol

Ein Cynllun Digidol 2024-2029

Mae’r cynllun hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith i harneisio pŵer technoleg a data i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i bobl Cymru.

Rydym yn cydnabod bod ein trawsnewidiad digidol yn ymdrech ar y cyd. Mae'n ganlyniad adborth amhrisiadwy gan ein staff, cleifion a rhanddeiliaid. Mae'r cynllun diwygiedig hwn yn adlewyrchu eu lleisiau, eu hanghenion a'u dyheadau. Mae'n destament i'n hymroddiad diwyro i fod yn fwy na darparwr gwasanaeth yn unig; rydym yn rhan hanfodol o’n cymunedau.

Gallwch gyrchu a lawrlwytho copi o'r Cynllun Digidol isod:

Rydym yn gyffrous am y posibiliadau y mae’r cynllun hwn yn eu datgloi a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar iechyd a lles ein cymunedau.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar y daith hon, i rannu yn ein gweledigaeth, ac i weld pŵer trawsnewidiol technoleg ar waith.

Edrychwn ymalen at rannu ein cynnydd gyda chi. 

Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl

Anfonwch neges e-bost at amb_digitalfeedback@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu gwestiynau ar unrhyw adeg yn ystod oes y cynllun hwn.