Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn coladu'r wybodaeth ystadegol ganlynol, a gyhoeddir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Meddygol Brys (EMS)
Diffinnir allbynnau ystadegol perfformiad swyddogol (a ddosberthir fel Perfformiad y GIG) fel Ystadegau Gwladol. Mae Ystadegau Gwladol yn Ystadegau Swyddogol sydd wedi’u hardystio gan Awdurdod Ystadegau’r DU fel rhai sy’n cydymffurfio â’i God Ymarfer. ( http://www.statisticsauthority.gov.uk/national-statistician/types-of-official-statistics/index.html )
Cyhoeddir Ystadegau Perfformiad EMS ar ddydd Mercher olaf pob mis am 9:30am
GIG 111 Cymru
Gellir cael rhagor o wybodaeth yma
Trefniadau Mynediad Cyn Rhyddhau
Yn ogystal â'r staff sy'n cynhyrchu adroddiad ystadegol, caniateir i rai unigolion weld ystadegau swyddogol yn gynnar.
Mae hyn yn galluogi pobl fel Llywodraeth Cymru (Cynhyrchydd Ystadegau) a Thîm Gweithredol a Chyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wneud sylwadau ar ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt.
Mae'r rheolau ynghylch pwy a pham y caniateir mynediad cynnar wedi'u nodi yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn Rhyddhau (Cymru) 2009. Er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y rheolau gall Awdurdod Ystadegau'r DU asesu trefniadau mynediad cyn rhyddhau.
Er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, rydym yn cyhoeddi teitl adroddiadau ystadegol y mae trefniadau mynediad cyn rhyddhau yn berthnasol iddynt. Rydym yn cynnwys teitlau swyddi'r holl bobl hynny y caniateir mynediad cyn rhyddhau iddynt a'r sefydliadau y maent yn perthyn iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhestr ei hun o drefniadau mynediad cyn rhyddhau a welir yma
Cyn Rhyddhau WAST
Tîm Mynediad, Gwybodaeth a Gwasanaethau Dadansoddol | Llywodraeth Cymru |
Cadeirydd | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Prif Weithredwr | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a TGCh | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth 7 Partneriaeth | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Gweithrediadau x 3 | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Rheolwr Cyfathrebu | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Dirprwy Reolwr Cyfathrebu | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Uwch Swyddog Cyfathrebu | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Cyfarwyddwr Anweithredol x 6 | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Pennaeth Gwybodeg Iechyd | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Tîm Gwybodeg Iechyd | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Adran Gwybodeg Iechyd: AMB_HIHelpDesk@wales.nhs.uk