Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Heb ymchwil, ni fyddai llawer o’r triniaethau a’r mathau o ofal yr ydym yn eu derbyn fel mater o drefn heddiw yn y GIG ar gael.

Mae gan aelodau'r cyhoedd ran hanfodol i'w chwarae, oherwydd heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell hyn yn bodoli.

Mae llawer o wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • derbyn triniaeth newydd
  • ateb holiaduron
  • rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich nodiadau meddygol
  • rhoi sampl gwaed neu wrin

Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru. Gallwch gael gwybod pam ei fod yn bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw’r manteision a beth mae’n ei olygu i bobl sy’n cymryd rhan ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru .

Doeth am Iechyd Cymru

Gallwch ymuno ag astudiaeth Doeth am Iechyd Cymru os ydych yn 16 oed neu drosodd ac yn byw yng Nghymru, mae gwahoddiad i bawb ymuno!

Bydd ateb cwestiynau syml am eich iechyd a’ch ffordd o fyw yn helpu i ddiogelu eich iechyd chi ac iechyd eich ffrindiau, eich teulu, a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.