30.06.25
BYDD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn delio’n wahanol â'r galwadau 999 mwyaf difrifol o yfory (ddydd Mawrth 1 Gorffennaf) ymlaen.
Mae categori porffor newydd yn cael ei ychwanegu at y system i’r bobl hynny sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a bydd y categori coch yn cael ei gadw ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd, gan gynnwys y rheini sydd mewn perygl difrifol o ddioddef ataliad y galon neu anadlol, gan gynnwys salwch a thrawma.
Bydd y newidiadau'n sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cymorth angenrheidiol a all achub eu bywyd gan y gwasanaeth ambiwlans, tra bod y rheini nad oes angen ambiwlans arnynt yn cael gofal mwy priodol.
Nod y newidiadau hyn yw helpu i wella cyfraddau goroesi ymysg pobl sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, sy'n llai na 5% ar hyn o bryd.
Gwneir y newidiadau mewn ymateb i argymhelliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a ddaeth i'r casgliad nad yw targed ymateb presennol y gwasanaeth ambiwlans yn briodol nac yn addas i'w ddiben bellach.
Mae'r dull gweithredu newydd yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau yn hytrach nag ar amseroedd ymateb.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rydyn ni'n cymryd camau pendant er mwyn achub mwy o fywydau.
"Hyd yn hyn, mae ataliadau'r galon wedi cael eu categoreiddio yn yr un modd â phroblemau llai tyngedfennol fel anawsterau anadlu.
"Mae'r dull gweithredu newydd hwn yn sicrhau bod timau ambiwlans yn blaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion mwyaf brys.
"Mae'r ymateb clinigol hwn sydd wedi'i dargedu, ynghyd â mynediad ehangach at ddiffibrilwyr yn y gymuned a gwelliannau o ran trosglwyddo cleifion i'r ysbyty, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella cyfraddau goroesi."
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ers 1974, mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei fesur yn ôl yr amser mae'n ei gymryd i gyrraedd galwadau brys.
"Mae’r gwasanaeth ambiwlans heddiw’n darparu gofal llawer mwy soffistigedig, felly mae symud y ffocws i faint o bobl, y mae eu bywyd yn y fantol, sy’n goroesi o ganlyniad i’n hymyriadau, yn hytrach na sawl munud mae'n ei gymryd inni gyrraedd yno, yn gam pwysig tuag at adlewyrchu hynny."
O yfory (ddydd Mawrth 1 Gorffennaf) ymlaen, bydd ambiwlansys yn cael eu hanfon i alwadau yn y categori porffor, sef pobl lle mae amheuaeth eu bod yn dioddef ataliad y galon ac anadlol, a'r categori argyfwng coch, sy’n cynnwys pobl sydd mewn perygl difrifol o ddioddef ataliad y galon ac anadlol, gan gynnwys o ganlyniad i anafiadau a salwch, a hynny cyn gynted â phosibl.
Disgwylir i ambiwlansys ymateb i'r galwadau hyn o fewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd.
Ond y prif fesur ar gyfer galwadau porffor fydd canran y bobl y mae eu curiad calon yn cael ei adfer ar ôl ataliad y galon nes cyrraedd yr ysbyty.
Fel rhan o'r model newydd, bydd sgrinio clinigol cyflym yn digwydd ar gyfer pob galwad nad yw'n cael ei chategoreiddio fel un porffor neu goch.
Bydd hyn yn sicrhau bod pob galwad yn cael ymateb yn seiliedig ar ddull gweithredu mwy pwrpasol, sy'n ystyried symptomau'r unigolyn a lleoliad y digwyddiad.
Mae hynny'n golygu y bydd pob person yn cael ymateb wedi'i deilwra i'w anghenion.
Bydd camau hefyd yn cael eu cymryd i wella'r sefyllfa o ran trosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty er mwyn cynnal capasiti'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned.
Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG yn cynnwys datblygu cynllun i asesu parodrwydd y GIG i weithredu uchafswm amser o 45 munud ar gyfer trosglwyddo claf o ambiwlans.
Mae disgwyliadau clir wedi'u gosod ar gyfer y GIG i wella trosglwyddiadau cleifion, ac mae’n gweithio i sicrhau gwelliannau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu cenedlaethol, o dan arweiniad clinigol, i gefnogi'r ymdrechion hyn. Bydd y tasglu'n canolbwyntio ar brosesau adrannau argyfwng a llif y cleifion.
O fis Gorffennaf ymlaen, bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn cynnal rhaglen y GIG, Achub Bywyd Cymru, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o CPR a gwella mynediad at ddiffibrilwyr yn y gymuned.
Bydd angen defnyddio dull gweithredu mwy cydgysylltiedig ar gyfer hyn.
Mae mwy na 8,500 o ddiffibrilwyr wedi eu cofrestru i'r cyhoedd eu defnyddio mewn cymunedau ledled Cymru, sy'n gallu chwarae rhan hanfodol yn yr ymgyrch i wella'r siawns goroesi i bobl sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi £500,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer gosod 500 o Ddiffibrilwyr Allanol Awtomatig (AEDs) ychwanegol mewn lleoliadau cymunedol er mwyn helpu i achub mwy o fywydau.
Ewch i'r dudalen Sut Mae Ein Gwasanaeth yn Newid am ragor o wybodaeth.