08.07.26
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog y cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol yn ystod y don wres ddiweddaraf.
Yn ddiweddar, profodd gwasanaethau ledled Cymru gynnydd sydyn yn y galw oherwydd y cyfnodau hir o wres gormodol.
Derbyniodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fwy na 400 o alwadau brys ychwanegol bob dydd yn ystod ton wres mis Mehefin ac mae'n atgoffa'r cyhoedd i ffonio 999 mewn argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd yn unig.
Gall y rhai sy'n sâl neu sydd ag anaf bach ymweld â gwefan GIG 111 Cymru neu roi cynnig ar Albot - Cynorthwyydd Digidol GIG Cymru , a all eich helpu i ddod o hyd i atebion i'r rhan fwyaf o gwestiynau a gall eich helpu i gael mynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.
Dywedodd Darren Panniers, Pennaeth y Gwasanaeth: “ Rydym wedi gweld bod tywydd cynhesach yn cynyddu’r galw a gall gyfrannu at ddigwyddiadau fel cwympiadau oherwydd dadhydradiad, pendro, pwysedd gwaed isel, blinder a llai o symudedd.
“Dylai pobl gadw llygad am arwyddion rhybuddio dadhydradiad, sy’n cynnwys dryswch neu ymddygiad wedi newid, gwendid, blinder gormodol, cur pen a llai o archwaeth.
“Mae cydnabyddiaeth ac ymyrraeth gynnar yn bwysig a gall camau syml fel darparu diodydd oer, lolipops iâ a bwydydd sydd â chynnwys dŵr uchel wneud gwahaniaeth sylweddol wrth atal dadhydradiad.”
Mae digwyddiadau eraill sydd wedi deillio o'r tywydd poeth wedi cynnwys pobl yn mynd i drafferthion mewn dŵr agored.
Rhannodd y Rheolwr Gorsaf Gavin Murphy, ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyngor pwysig, gan ddweud: "Rydym eisiau i bobl fwynhau'r tywydd cynnes, ond rydym yn annog pawb i gymryd gofal o amgylch dŵr agored.
“Gall afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr, chwareli a chamlesi edrych yn dawel ac yn groesawgar, ond gallant fod yn oer, yn ddwfn ac yn anrhagweladwy.
“Nid yw tywydd cynnes yn golygu dŵr cynnes, a gall dŵr oer effeithio ar eich gallu i anadlu a nofio yn gyflym iawn.
“Nid yw hyn yn ymwneud ag atal pobl rhag mwynhau eu hunain, mae'n ymwneud â'u helpu i fwynhau'r tywydd cynnes yn ddiogel.
"Lle bynnag y bo modd, dewiswch leoliadau dan oruchwyliaeth i nofio, peidiwch byth â neidio i ddŵr agored, osgoi alcohol o gwmpas dŵr, ac os gwelwch chi rywun mewn trafferth, ffoniwch 999."