Neidio i'r prif gynnwy

111 yn lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Bydd pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn gallu ffonio 111 i gael mynediad am ddim i ofal meddygol brys y tu allan i oriau a chymorth ac arweiniad iechyd 24 awr y dydd o heddiw ymlaen.

Gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth iechyd hefyd ar wefan GIG 111 Cymru , sy'n cynnwys gwirwyr symptomau ar-lein ar gyfer cwynion a chyflyrau cyffredin.

Bydd gwasanaeth 111 GIG Cymru ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am hanner dydd ddydd Mercher 16 Mawrth 2022.

Mae’r rhif hawdd ei gofio ar gael am ddim o linellau tir a ffonau symudol ac mae’n darparu mynediad at wasanaethau y Tu Allan i Oriau a chyngor iechyd gan GIG Cymru.

Bydd yn helpu pobl i gael y wybodaeth, yr arweiniad a'r driniaeth gywir yn y lle iawn ar yr amser cywir.

Drwy ffonio 111, bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn asesu’ch cyflwr i’ch helpu i gael y cymorth cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Gall galwyr dderbyn cyngor iechyd dros y ffôn neu os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr yn eich ffonio'n ôl.

Bydd galwyr yn cael eu hasesu'n llawn ac os oes angen iddynt gael eu gweld gan feddyg, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall y tu allan i oriau tra bod eu meddygfa eu hunain ar gau, bydd hyn yn cael ei drefnu.

Os credwch fod angen i chi ymweld â'r Uned Frys neu'r Uned Mân Anafiadau gallwch ffonio 111 lle byddwch yn cael eich asesu ac os oes angen i chi gael eich gweld, gellir trefnu hyn.

Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Os yw’n argyfwng difrifol neu sy’n bygwth bywyd, yna dylech ffonio 999.

Os yw eich cyflwr yn un brys ond ddim yn bygwth bywyd ffoniwch 111 ac am bopeth arall defnyddiwch wefan GIG 111 Cymru .

Os oes angen y Llinell Ddeintyddol Frys arnoch, ffoniwch 0300 10 20 247.