Bydd gweithiwr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn camu ar y cae hoci i fod yn gapten ar Gymru yng Nghwpan y Byd 35-40 oed yn Nottingham.
Bydd Cath Fuge, 39, sy’n barafeddyg ar gyfer Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus (HART) yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, yn dechrau ei chystadleuaeth heddiw.
Ar ôl i'r pandemig a rhwygo ei patella tendon yn 2020 rwystro ei hyfforddiant, mae Cath yn barod i chwarae, o bosibl, ei chystadleuaeth olaf.
Meddai: “Roeddwn i ffwrdd o’r gwaith am bedwar i bum mis ar ôl fy anaf, ond fe wnes i ganolbwyntio ar fy adferiad, ac roeddwn yn ôl yn hyfforddi mewn llai na blwyddyn.
“Fe wnes i chwarae’r gwledydd cartref y llynedd, a dw i newydd fod yn ceisio adeiladu ar hynny.
“Dw i’n cyfri fy hun yn reit lwcus, fy mod yn ôl ar ei draed.”
Dechreuodd Cath weithio i’r Ymddiriedolaeth fel Technegydd Meddygol Brys 16 mlynedd yn ôl, gan ymuno â HART yn 2012.
Meddai: “Yn HART, rydyn ni'n hyfforddi gyda'n gilydd os gallwn ni, ac rydw i'n hoff iawn o'r amgylchedd tîm hwnnw.
“Mae chwaraeon a ffitrwydd yn gyffredinol wedi bod yn dda i mi.”
Bydd Cath sydd fel arfer yn chwarae yn safle canol cae (CM), yn dechrau twrnamaint Cymru yn erbyn Yr Alban.
“Rwy’n chwarae safleoedd gwahanol, ond fel arfer rwy’n chwarae CM gan fy mod yn chwaraewr ymosodol.
“Rwy’n nerfus ond hefyd yn gyffrous iawn.
“Pan chwaraeon ni’r gwledydd cartref yn ddiweddar, roeddwn i’n chwarae yn erbyn chwaraewyr Olympaidd.”
Bydd Cwpan y Byd 2022 yn Nottingham yn cael ei gynnal rhwng 12 a 21 Awst.
Dywedodd Cath: “Mae’n mynd i fod yn enfawr; Dwi'n meddwl bod 'na hanner cant o dimau yn dod draw.
“Cymru yw’r underdogs bob amser.
“Ddydd Sadwrn fe fydd hi’n gêm Cymru yn erbyn Lloegr, sydd wastad yn gêm fawr.
“Mae’n anrhydedd mawr i mi gadw’r gapteniaeth am eleni ac alla’ i ddim aros.”
Bydd Cath yn cael ei chefnogi gan ei phartner, mam, a thad, ynghyd â theulu a ffrindiau eraill.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cath a thîm Cymru yma.
Nodiadau y Golygydd
Bydd Cwpan y Byd 2022 yn Nottingham yn cael ei gynnal dros naw diwrnod a bydd yn cynnwys dau grŵp oedran yn cystadlu yn nhwrnamaint dynion a merched. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://worldmastershockey.org/wmhevents/mwc22uk/
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Beth Eales yn Beth.Eales@wales.nhs.uk neu ffoniwch Beth ar 07870 383209