Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion cleifion Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn mynd yn ddigidol

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno technoleg newydd sydd wedi galluogi ei holl gofnodion cleifion i fynd yn ddigidol.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynhyrchu 400,000 o gofnodion cleifion y flwyddyn ar gyfartaledd, sydd yn draddodiadol wedi'u cofnodi fel nodiadau mewn llawysgrifen.

Mae technoleg Cofnod Clinigol Claf Electronig (ePCR) yn galluogi criwiau i gipio gwybodaeth ar iPad, lleihau papur, gwella cywirdeb nodiadau a galluogi gwybodaeth amser real i gael ei rhannu'n gyflym ac yn hawdd gyda phartneriaid gofal iechyd.

Yn hytrach nag aros i gael cofnod papur, gall meddygon nawr benderfynu ar y driniaeth orau cyn i glaf gyrraedd yr ysbyty, gan gyflymu trosglwyddiadau.

Gall uwch glinigwyr sy'n darparu cyngor o bell i barafeddygon wyneb yn wyneb â chlaf hefyd gael mynediad at yr ePCR mewn amser real a chofnodi eu cyngor fel rhan o'r cofnod.

Dywedodd Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae symud o gasglu data cleifion ar bapur i ePCR yn drawsnewidiol i’r Ymddiriedolaeth a gofal cleifion.

“Nid yn unig mae’n symleiddio’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei chasglu, ond mae’r data byw rydyn ni’n ei fewnbynnu i Borth Clinigol Cymru yn golygu y gall clinigwyr eraill gael mynediad ato, sy’n cryfhau cydweithio ac yn y pen draw, yn golygu gwell gwasanaeth i’r claf.

“Mae symud i ddigidol hefyd wedi dileu’r defnydd o bapur, sy’n mynd â ni’n agosach at ein nodau datgarboneiddio.

“Rydym yn credu’n angerddol dros harneisio technoleg i arfogi ein clinigwyr â gwybodaeth i ddarparu gofal unigol i wella canlyniadau cleifion a phrofiadau cleifion, gofalwyr a’u teuluoedd pan fyddant ein hangen fwyaf.”

Ariannwyd y datrysiad ePCR newydd drwy Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru, a chymerodd ei gyflwyno ar anterth y pandemig Covid-19 tua 12 mis.

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: “Rwy’n llongyfarch y tîm ar gyflwyno ei system cofnodion electronig newydd yn llwyddiannus ac yn amserol.

“Mae digideiddio cofnodion gofal cleifion yn golygu y gellir rhannu gwybodaeth mewn modd mwy effeithlon er mwyn gwella gofal cleifion ac arbed munudau hollbwysig ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

“Byddaf yn parhau i gefnogi datblygiad ychwanegol y system ePCR i wella gofal cleifion yng Nghymru ymhellach.”

Mae Rhaglen ePCR yr Ymddiriedolaeth bellach yn archwilio datblygiadau pellach i ryngwynebu â systemau eraill GIG Cymru a darparu gwybodaeth ychwanegol i griwiau ambiwlans, fel alergeddau claf a meddyginiaethau rheolaidd.

Mae gwaith i alluogi Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol yr Ymddiriedolaeth i ddefnyddio'r system hefyd ar y gweill gyda'r bwriad o gasglu gwybodaeth ar draws y gwasanaeth – boed hynny gan staff neu wirfoddolwyr – fel Cofnod Clinigol Claf digidol sengl.

Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Lois Hough, Pennaeth Cyfathrebu Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar 07866 887559, neu e- bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk