Neidio i'r prif gynnwy

Gorsaf Ambiwlans Caerdydd yn gwobrwyo enillwyr cystadleuaeth poster

Mae cystadleuaeth POSTER i addurno waliau gorsaf ambiwlans newydd sbon yng Nghaerdydd wedi cynhyrchu enillydd.

Daeth Ysgol Gynradd Maesyfed yn gyntaf yn y gystadleuaeth i gynhyrchu lluniadau ar y thema o ddefnyddio 999 yn briodol ar gyfer y cyfleuster newydd ym Mhontprennau, a agorodd ym mis Mawrth.

Mae’r disgyblion wedi cael diffibriliwr a fydd yn cymryd lle amlwg ar wal allanol yr ysgol, gan alluogi’r gymuned i’w ddefnyddio hefyd .

Mae’r cyfleuster gwerth £8 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar Ystad Ddiwydiannol Avenue yn gartref newydd i griwiau brys a di-argyfwng a oedd wedi’u lleoli’n flaenorol yng ngorsaf Blackweir sy’n heneiddio.

Mae Uned Ymateb Beiciau'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi'i lleoli yn y cyfleuster newydd, sy'n cynnwys Ystafell Les ar gyfer staff a 'Depo Parod' lle mae Cynorthwywyr Fflyd ymroddedig yn glanhau ac ailstocio cerbydau, gan alluogi clinigwyr i dreulio mwy o amser gyda chleifion.

Dywedodd Nia Cockburn, Rheolwr Prosiect gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Roedd yn bwysig i ni ddod ynghyd â’r gymuned leol wrth i ni symud a sefydlu ein hunain yn yr ardal.

“Fe wnaethon ni ymuno â’n Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned i ddod o hyd i ffordd hwyliog o integreiddio â’r ardal leol, a chystadleuaeth poster oedd y canlyniad.

“Roedd yn llawer o hwyl beirniadu’r holl gynigion a dewis y pump uchaf, yn enwedig pan gawsom ni ymweld â’r ysgolion a’r plant i gyflwyno eu gwobrau iddynt.

“Roedd y plant wrth eu bodd â'r ambiwlans digwyddiad a ddaeth gyda ni ar y diwrnod , felly maen nhw'n gyffrous iawn nawr i ymweld â'r orsaf yn yr haf sy'n ffordd arall i ddweud diolch am eu cyfranogiad.

“Hoffem estyn diolch arbennig i Ysgol Gynradd Radnor am eu rhan, yn enwedig Kane Morgan sy’n dysgu yn yr ysgol am drefnu cyfranogiad yr ysgol gyfan yn y gystadleuaeth.”

Noddwyd y diffibriliwr gan Lawray Architects, y dywedodd ei Gyfarwyddwr, Chris Evans: “Ar ôl gweithio’n agos gyda’r tîm yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddatblygu gorsaf newydd Caerdydd, roedd yn addas bod Lawray Architects yn noddi’r wobr.

“Roedd yn bleser dyfarnu diffibriliwr newydd sbon i Miss Bakri a’r gymuned leol.”

Mae Jayden Philip, Isla Sharp, Lewis Sainsbury a Flo Hall, hefyd o Ysgol Gynradd Radnor a Chlwb Brecwast Christchurch, wedi derbyn rhifyn Caerdydd o gêm fwrdd Monopoly a thystysgrif am eu hymdrechion.

"Gwerthfawrogwyd pob ymgais i'r gystadleuaeth yn fawr iawn. Mae collage o'r holl bosteri'n cael eu creu i'w harddangos hefyd ar y wal wrth ymyl y pum cynfas buddugol," meddai Nia.

Nodiadau y Golygydd
Ddneu fwy o wybodaeth, ffoniwch yr Arbenigwr Cyfathrebu, Emily Baker, ar 07811 752110 neu e- bostiwch Emily.Benwell@wales.nhs.uk