Gorsaf FODERN NEWYDD ar gyfer staff corfforaethol a gweithrediadau yng Nghwmbrân wedi'i hagor yn swyddogol
Mae criwiau o Wasanaeth Trosglwyddo Ysbyty Athrofaol y Grange (GUH) Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a oedd wedi’u lleoli’n flaenorol mewn hen neuadd hamdden, wedi symud i mewn i’r cyfleuster, a ddadorchuddiwyd ddoe gan y Prif Weithredwr Jason Killens.
Mae'r adeilad 12,109 troedfedd sgwâr, o'r enw Beacon House, yn cynnwys gofod hyfforddi, astudio a TGCh, mannau gwefru a golchi cerbydau, cyfleusterau cegin ac ystafelloedd loceri.
Mae gan y cyfleuster hefyd 56 o ddesgiau ar gyfer cydweithwyr corfforaethol sydd wedi symud o Vantage Point House yng Nghwmbrân gerllaw.
Dywedodd Joanne Williams, Pennaeth Datblygu Cyfalaf: “Un o’n prif flaenoriaethau oedd sicrhau bod gan gydweithwyr gweithredol o’r GUH, a chydweithwyr corfforaethol, gyfleusterau addas i’r diben y maent yn eu haeddu.
“Rwyf wrth fy modd ei fod yn gwbl weithredol a bod llu o dimau wedi gallu defnyddio’r gofod.”
Cwblhawyd y gwaith adnewyddu adeiladau gan gontractwr o Gwmbrân, Stacey Construction LTD.
Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfalaf ac Ystadau yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae'n arbennig o wych gweld tîm GUH mewn cyfleuster newydd a gwell, gan eu bod yn gweithio allan o hen neuadd hamdden yn flaenorol.
“Mae Beacon House wedi’i gyfarparu â phaneli solar a storfa batris fel rhan o agenda datgarboneiddio’r gwasanaeth, ac mae’n rhan o raglen waith ehangach i foderneiddio ystadau’r Ymddiriedolaeth.
“Mae’n gyfleuster y mae’r tîm Cyfalaf ac Ystadau wedi bod yn falch o weithio arno ac yn un y gall y staff fod yn falch o weithio ohono.”
Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Cyfathrebu Beth Eales ar 07870 383209 neu e- bostiwch Beth.Eales@wales.nhs.uk