MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi penodi Cadeirydd newydd.
Mae Colin Dennis, sydd ar hyn o bryd yn Gadeirydd North Devon Homes and Citizen Housing, wedi’i benodi gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn proses ddethol gystadleuol.
Mae Colin wedi cael gyrfa ddisglair yn y sectorau ariannol a hedfan ac mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn rolau anweithredol mewn sectorau a reoleiddir gan gynnwys y GIG, tai cymdeithasol a gofal oedolion a gwasanaethau cymdeithasol.
Bydd yn cymryd lle Cadeirydd ymadawol yr Ymddiriedolaeth, Martin Woodford, a bydd yn dechrau ei dymor o bedair blynedd ar 01 Hydref 2022.
Am ei benodiad, dywedodd Colin: “Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i’r rôl hon fel Cadeirydd.
“Ar ôl treulio peth amser ar fwrdd ymddiriedolaeth ysbyty acíwt a blynyddoedd lawer fel Cadeirydd darparwr gofal cymdeithasol sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r GIG yn gyffredinol, ac o’r gwasanaeth ambiwlans yn benodol.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn y sectorau hyn a sectorau pwrpas cymdeithasol eraill o werth i’r Bwrdd ac i’r gwasanaeth.”
Bydd Colin yn cymryd lle’r Martin Woodford sy’n gadael, a ymunodd â’r Ymddiriedolaeth yn 2014 fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac a benodwyd yn Gadeirydd yn 2018.
Mae Martin, sy'n gyfrifydd cymwys, wedi casglu mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y byd llywodraeth leol a gofal iechyd.
Cyn ymuno â'r gwasanaeth, roedd yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Powys ac yn Brif Weithredwr yr hen Ymddiriedolaeth Ysbyty Henffordd a'i sefydliad olynol Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy.
Dywedodd Martin: “Rwyf wedi cael wyth mlynedd wych gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae'n deg dweud ein bod wedi cymryd camau breision tuag at ein gweledigaeth i ddod yn wasanaeth ambiwlans blaenllaw.
“Rydym hefyd wedi cael ein cyfran deg o orthrymderau, nid lleiaf pandemig byd-eang, ond mae’r ffordd y mae cydweithwyr ym mhob rhan o’r gwasanaeth ac ym mhob cornel o Gymru wedi ymateb i’r her yn fy ngwneud yn hynod falch.
“Mae wedi bod yn anrhydedd lwyr i wasanaethu fel Cadeirydd, ac wrth i fy nghyfnod o ddod i ben, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth a’r GIG ehangach yng Nghymru am eu cefnogaeth a’u partneriaeth.
“Hoffwn hefyd longyfarch Colin ar ei benodiad haeddiannol.”
Ychwanegodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae’n gyfnod pwysig i’r GIG yng Nghymru wrth i ni geisio darparu gwasanaeth iechyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ac mae gwybodaeth, angerdd ac egni personol Martin ar gyfer y rôl wedi helpu i yrru’r gwaith hwnnw yn ei flaen.
“Hoffem ddiolch o galon i Martin am ei ymrwymiad dros yr wyth mlynedd diwethaf, a llongyfarchiadau mawr i Colin ar ei benodiad.”
Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.