Mae’r cyfleuster £8 miliwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ym Mhontprennau, yn gartref newydd i’r criwiau brys a’r rhai nad ydynt yn rhai brys, a oedd wedi’u lleoli’n flaenorol yng ngorsaf Blackweir.
Mae Uned Ymateb Beiciau'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi'i lleoli yn y cyfleuster newydd, sy'n cynnwys 'Depo Parod' lle mae Cynorthwywyr Fflyd penodedig yn glanhau ac ailstocio cerbydau, gan alluogi clinigwyr i dreulio mwy o amser yn gwasanaethu cleifion yn y gymuned.
Mae Siarter Teithio Iach Caerdydd wedi bod yn ganolog i ddyluniad yr orsaf, sydd â phwyntiau gwefru cerbydau trydan, storfa feiciau, blychau ystlumod a system cynaeafu dŵr glaw, sy’n galluogi dŵr i gael ei ailddefnyddio ar gyfer glanhau cerbydau.
Ymwelodd y Gweinidog hefyd ag ystafell hyfforddi drochi newydd yr orsaf, lle bydd technoleg efelychu yn ail-greu senarios bywyd go iawn i roi sgiliau myfyrwyr ar brawf.
Mae'r orsaf newydd yn rhan o raglen waith i foderneiddio ystâd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Dywedodd Eluned Morgan:
“Rwy’n falch iawn o agor gorsaf ambiwlans newydd Caerdydd yn swyddogol, gan ddarparu’r ganolfan y maent yn ei haeddu i’r criwiau. Bydd y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynyddu’r amser y gall criwiau ei dreulio gyda phobl sâl neu sydd wedi’u hanafu, yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi rhagorol ar gyfer staff newydd a phresennol.
“Ochr yn ochr â’r £3m rydym yn ei fuddsoddi i recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol a chyflwyno gwasanaeth ‘Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru’ (CHARU) newydd , bydd ein seilwaith ambiwlans newydd yn darparu ystod o fanteision i’n staff ambiwlans a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. gwasanaethu.”
Dywedodd Chris Willis, Rheolwr Ardal Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer Caerdydd:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn nifer o flynyddoedd ar y gweill felly rydym wrth ein bodd ei fod yn weithredol. Mae gennym atgofion melys o'n hamser yng ngorsaf Blackweir, ond roedd yr adeilad o'i amser ac nid oedd bellach yn addas i'r pwrpas.
“Mae hon yn orsaf ambiwlans yr 21ain ganrif i fod yn falch ohoni, ac mae’n golygu bod criwiau o’r diwedd yn cael y cyfleusterau y maent yn eu haeddu, sydd yn y pen draw yn golygu gwell gwasanaeth i bobl Caerdydd.
“Mae’r Depo Parod yn arbennig yn ddatblygiad enfawr ac mae nid yn unig yn rhyddhau criwiau i dreulio mwy o amser yn y gymuned ond hefyd yn gwella rheolaeth heintiau, sy’n bwysicach nag erioed.”
Ychwanegodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth:
“Un o’n blaenoriaethau allweddol fel sefydliad yw sicrhau bod gan ein pobl fynediad at gyfleusterau sy’n ddiogel, yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac sy’n addas i’r diben ac sy’n caniatáu iddynt wasanaethu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu buddsoddiad yn y prosiect hwn.”