Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau WAST 2022 - A'r enillwyr yw...

MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn dathlu ei staff a’i wirfoddolwyr yn ei seremoni wobrwyo flynyddol.

Cyflwynwyd mwy na dwsin o wobrau yn y rhith-ddigwyddiad heno i gydweithwyr o bob rhan o’r gwasanaeth, ym mhob cornel o Gymru.

Yn eu plith roedd clod ar gyfer Tîm y Flwyddyn, Ysbrydoli Eraill a Dysgu ac Arloesi, yn ogystal â Gwobr Gail Williams am ragoriaeth glinigol.

Cyflwynwyd dim llai na phedair gwobr i wirfoddolwyr, gan gynnwys Gwobr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn a Gwobr Gyrrwr Car Gwirfoddol y Flwyddyn.

Canmolodd yr Ymddiriedolaeth gydweithwyr hefyd am eu hymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Pan mae pobl ar eu trai isaf, ni yw’r bobl y maen nhw’n troi atynt, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i wneud yr hyn y mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd.

“Mae Gwobrau WAST yn rhoi cyfle i ni ddathlu popeth sy’n wych am y sefydliad hwn, yn ogystal â’r cyfle perffaith i ddweud ‘diolch’ – dau air sy’n golygu cymaint.”

Ychwanegodd y Cadeirydd Coin Dennis: “Mae'n bwysicach nag erioed i ddweud diolch yn fawr i'n pobl, a hebddynt ni fyddai gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol Cymru yn bodoli.

“Yn aml, nid yw ein pobl yn sylweddoli bod yr hyn y maent yn ei wneud yn arbennig, felly mae Gwobrau WAST yn ffordd wych o daflu goleuni ar eu gwaith a chydnabod yr ymdrech honno.

“Roedd safon yr enwebiadau eleni yn wych, ac er bod pawb yn enillydd teilwng yn ein llygaid ni, y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol heno yw'r gorau o'n gorau.

“Clywsom rai straeon anhygoel fel rhan o’r seremoni heno, a hoffwn estyn llongyfarchiadau enfawr a gwresog i’n holl enillwyr.”

Enillwyr Gwobrau WAST 2022 yw -

Gwobr Gwasanaeth Meddygol Brys
Gogledd:
Scott Timbrell Parafeddyg
Y Canolbarth a'r Gorllewin: Huw Jackson – Arweinydd Clinigol y Bwrdd Iechyd
De Ddwyrain: Will Hedges – Uwch Barafeddyg

Gwobr Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng
Y Canolbarth a'r Gorllewin:
Craig Figtures – Arweinydd Tîm Gweithredol
De Ddwyrain: Caitlin Holvey – Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans
Cymru Gyfan: Lyndon Powell – Rheolwr Sicrwydd Ansawdd

Gwobr Canolfan Cyswllt Clinigol
Gogledd:
Jessica Hamblett Rheolwr Safle
Y Canolbarth a'r Gorllewin: Chris Jones – Gweinyddwr Systemau Canolfan Gyswllt Clinigol
De Ddwyrain: Chloe Walkley Hyfforddwr Canolfan Cyswllt Clinigol

Gwobr Gwasanaethau Cefnogi
Gogledd:
Catherine Wynn Lloyd Swyddog Cefnogi Prosiect Datblygu Sefydliadol
Canolbarth a Gorllewin: Wendy Herbert Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd a Nyrsio
De Ddwyrain: Ian McMurtrie – Swyddog Cefnogi Prosiect

Gwobr Tîm y Flwyddyn
Tîm Pryderon y Ganolfan Gyswllt Clinigol

Gwobr Dysgu ac Arloesedd
Elizabeth Price, Dewi Edwards a’r Tîm 111 Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y Claf

Gwobr Ysbrydoli Eraill
Gogledd:
William Dovey-Evans Technegydd Meddygol Brys
Y Canolbarth a'r Gorllewin: Callum Palin – Cynlluniwr/Rheolwr
De Ddwyrain: Fi Kawe - Technegydd Meddygol Brys dan Hyfforddiant

Gwobr Gwrandäwr Gwych
Gogledd:
Sioned Ashworth Cydlynydd Trin Galwadau 111
Y Canolbarth a'r Gorllewin: Ruth Davies – Cydlynydd Trin Galwadau 111
De Ddwyrain: Elain Roberts – Goruchwyliwr Derbyn Galwadau

Gwobr Iaith Gymraeg
Cerrie Douglass Clinigydd Desg Gymorth Clinigol

Gwobr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn
V aughn Richardson

Gwobr Tîm Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol y Flwyddyn
Tîm CFR Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro

Gwobr Gyrrwr Car Gwirfoddol y Flwyddyn
Margaret Wright

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Roger Marshall – Ymatebwr Cyntaf Cymunedol

Gwobr Dewis y Bobl
Erika Davies Technegydd Meddygol Brys

Gwobr Cydnabyddiaeth Gyhoeddus
Grŵp Diffibrilwyr Cymunedol Tonyrefail a Gilfach Goch

Gwobr Gail Williams
Ross French – Uwch Ymarferydd Parafeddygol

Gwobr y Cadeirydd
Catrin Convery – Rheolwr Ardal

Gwobr y Prif Weithredwr
Desg Gymorth Clinigol Canolfan Cyswllt Clinigol

Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at WAS.Communications@wales.nhs.uk