Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaeth 999 Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pobl fyddar

Mae gwasanaeth NEWYDD wedi lansio i alluogi pobl i wneud galwadau 999 gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am y tro cyntaf.

Bydd y gwasanaeth newydd, 999 BSL , yn caniatáu i bobl fyddar wneud galwadau brys gan ddefnyddio ap neu wefan, gan gysylltu galwyr â dehonglydd BSL.

Y system, gafodd ei lansio ddydd Gwener, yw'r tro cyntaf i wasanaeth brys 999 fod ar gael mewn BSL.

Bydd pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu trosglwyddo i ddehonglydd BSL, a fydd wedyn yn trosglwyddo'r sgwrs i weithredwr 999.

Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae'n gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Fel Ymddiriedolaeth, rydym wedi bod yn ymgysylltu â’r gymuned fyddar ers blynyddoedd lawer.

“Mae pobl fyddar wedi dweud wrthym yn gyson eu bod yn poeni am gyrchu cymorth mewn argyfwng oherwydd nad ydynt yn gallu gwneud galwad 999 yn y ffordd draddodiadol.

“Mewn gwirionedd, mae cael mynediad i unrhyw wasanaeth trwy alwad ffôn yn rhwystr gwirioneddol.

“Mae cyflwyno BSL 999 yn gam enfawr ymlaen, a bydd yn caniatáu i bobl fyddar gael mynediad i’r gwasanaethau brys yn eu dewis iaith – BSL.

“Mae hyn yn mynd â ni yn llawer agosach at ddarparu mynediad cyfartal i’n holl wasanaethau i’r gymuned fyddar.”

Mae gwasanaeth testun ar gyfer 999 eisoes yn bodoli, er bod defnyddwyr wedi gorfod cofrestru ar gyfer hwnnw cyn ei ddefnyddio.


Nid oes angen cofrestru ar y gwasanaeth iaith arwyddion newydd, sy'n golygu y gall galwyr ei ddefnyddio cyn belled â bod yr ap neu'r dudalen we ar agor.

Cyhoeddodd Ofcom fod yn rhaid i gwmnïau ffôn a band eang gario’r gwasanaeth fis Mehefin diwethaf, gan amcangyfrif y byddai’n arbed dau fywyd y flwyddyn.

Dywedodd Katie Hanson, Uwch Reolwr Polisi Defnyddwyr yn Ofcom: “Gallwch chi fynd am flynyddoedd heb fod angen ffonio 999.

“Ond mae gwybod y gallwch chi ffonio am help ar eich ffôn symudol yn rhywbeth y dylem ni i gyd allu dibynnu arno, ac yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.

“Mae ein rheolau newydd yn golygu y gall pobl fyddar nawr wneud galwad fideo mewn argyfwng, a fydd o fudd i bawb ac yn achub bywydau.”

I wneud galwad gyda 999 BSL, mae angen i ddefnyddwyr agor yr ap neu'r dudalen we, yna pwyso botwm coch a fydd yn eu cysylltu â chyfieithydd.


Ewch i https://999bsl.co.uk am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at y gwasanaeth.

Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Lois Hough, Pennaeth Cyfathrebu Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar 07866 887559, neu e- bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk