MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn cwrdd â phobl â dementia ym Mhowys.
Galluogodd digwyddiadau yn Ystradgynlais, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod ac Aberhonddu, a gynhaliwyd ar y cyd â Dementia Matters ym Mhowys, yr Ymddiriedolaeth i gyflwyno profiadau rhyngweithiol a gweithgareddau eraill i bobl â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Mae Dementia Matters in Powys yn elusen sy’n cefnogi iechyd a lles pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Dywedodd Alison Johnstone, Rheolwr Rhaglen Dementia Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae’r gwaith ymgysylltu hwn yn hanfodol i ni allu gwrando a dysgu oddi wrth bobl y mae dementia’n effeithio arnynt.
“Er enghraifft, mae adborth yn dweud wrthym y gall amgylcheddau cerbydau ambiwlans fod yn ofidus ac yn anodd i bobl sy’n byw gyda dementia.
“Mae’r sesiynau hyn nid yn unig yn caniatáu i ni addysgu pobl am yr hyn i’w ddisgwyl wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, ond lle bo’n bosibl, mae cerbydau’n cael eu harddangos er mwyn galluogi darpar ddefnyddwyr i ddod yn gyfarwydd â’u hamgylchedd.
“Mae’r cyfleoedd hyn i ymgysylltu ac addysgu yn rhan allweddol o’n Cynllun Dementia .”
Mae disgwyl i nifer y bobl sy’n byw gyda dementia dreblu o 50 miliwn i 152 miliwn erbyn 2050, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd Wendy Moss, Swyddog Datblygu Cymunedol Dementia ar gyfer Dementia Matters: “Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu gwasanaeth mor werthfawr i’n cymunedau lleol.
“Roedd yn braf gallu ymgysylltu â’r Ymddiriedolaeth heb orfod mynd trwy drawma argyfwng.
“Diolch – edrychwn ymlaen at eich gweld eto yn y dyfodol.”
Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael eu cydnabod fel Sefydliad sy’n Deall Dementia gan Gymdeithas Alzheimer’s.
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am waith dementia Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cysylltwch â’r Tîm Dementia ar amb_mentalhealth@wales.nhs.uk
Nodiadau y Golygydd
Dilynwch y ddolen i ddarllen Cynllun Iechyd Meddwl a Dementia yr Ymddiriedolaeth: https://ambulance.nhs.wales/about-us/mental-health-and-dementia/
I gael rhagor o wybodaeth am Dementia Matters ym Mhowys, ewch i: https://www.dementiamatterspowys.org.uk/
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Beth.Eales@wales.nhs.uk neu ffoniwch Beth ar 07870 383209.