Dathlodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ers tro mewn seremoni wobrwyo yng ngorllewin Cymru ddoe.
Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y pedwerydd o chwe digwyddiad ledled Cymru eleni i gydnabod hyd gwasanaeth.
Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da y Frenhines hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan Ddirprwy Raglaw Dyfed, yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE.
Mae mwy na 400 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael eu gwahodd i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni, y digwyddiadau gwobrwyo personol cyntaf ers 2019 oherwydd y pandemig.
Meddai’r Cadeirydd Martin Woodford: “Dyma’r pedwerydd o chwe digwyddiad ledled Cymru i ddathlu cydweithwyr sydd wedi cyrraedd cerrig milltir gwasanaeth hir yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
“Yn anffodus, fe wnaeth y pandemig chwalu ein dathliadau arferol felly mae’n gwneud y digwyddiadau personol hir-ddisgwyliedig hyn hyd yn oed yn fwy arbennig.
“Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.
“Mae’r Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i fyfyrio ar eu cyfraniadau, a hoffem estyn llongyfarchiadau gwresog i bob un o’n derbynwyr.”
Ychwanegodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “ Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ddathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl – ac yn benodol, hyd eu gwasanaeth.
“Mae hefyd yn rhoi cyfle perffaith i ni ddweud 'diolch' - dau air sy'n golygu cymaint.
“Mae'n anhygoel meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym ddoe yn cyfrif am fwy na 400 mlynedd o wasanaeth.
“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”
Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Pennaeth Cyfathrebu Lois Hough ar 07866887559 neu e- bostiwch Lois.Hough@wales.nhs.uk