MAE GWEITHWYR brys yng Nghymru yn atgoffa’r cyhoedd i’w trin â pharch yn wyneb cynnydd parhaus yn nifer yr ymosodiadau.
Mae cyfartaledd misol yr ymosodiadau ar weithwyr brys wedi cynyddu o 203 yn 2019, i 226 yn 2020, i 237 yn 2021, sy’n cynrychioli cynnydd o 4.9 y cant bob blwyddyn.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod mwy na 1,440 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis o 1 Gorffennaf 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
Y pum math mwyaf cyffredin oedd cicio, poeri, camdrin geiriol, dyrnu a gwthio.
Ymhlith y dioddefwyr mae Joanna Paskell, parafeddyg yn y Bari, Bro Morgannwg, yr ymosodwyd arni fis Mai diwethaf gan glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yn dilyn yr ymosodiad gadawyd Joanna, sydd wedi bod yn weithiwr ambiwlans am chwarter canrif, yn dioddef o byliau panig.
Dywedodd y fam i bedwar: “Digwyddodd tra roeddem ni’n ceisio symud y claf o’r troli i wely. Fe wnaeth hi gynhyrfu gan chwifio ei breichiau a’m dyrnu yn fy mrest.
“Cefais sioc gan ei fod yn gwbl annisgwyl. Doedd dim arwydd ei bod hi’n mynd i droi’n ymosodol.
“Er fy mod i wedi cael braw, wnes i ddim meddwl dim ohono ar y pryd, dim ond cymryd tabledi lladd poen i leddfu’r boen.
“Dim ond pan roeddwn i’n gwneud fy hun yn barod ar gyfer fy shifft nesaf y gwnes i sylweddoli beth oedd wedi digwydd, ac fe gefais bwl o banig.
“Bu’n rhaid i mi gymryd amser o’r gwaith.
“Roedd hi’n anodd i mi ddychwelyd, a hyd yn oed nawr, rydw i’n wyliadwrus iawn wrth ymyl cleifion.”
Yn y cyfamser, gadawyd Andy Davies, parafeddyg yn Llangefni, Ynys Môn, â’i ysgwydd wedi’i dadleoli ar ôl i glaf ymosod arno fis Mehefin diwethaf.
Mae Andy’n cofio: “Roedd y claf yn mynd yn ymosodol iawn yn eiriol i’r graddau lle gwnaethom ni alw am gymorth wrth gefn gan yr heddlu.
“Wrth i mi geisio ei asesu, fe wnaeth fy nhaflu i’r llawr, gan ddadleoli fy ysgwydd chwith yn rhannol.
“Bu’n rhaid i mi gael chwe wythnos o ffysiotherapi wedyn i’m helpu i adfer yn dilyn yr anaf.
“Roeddwn i yn yr heddlu milwrol yn flaenorol, felly rwy’n eithaf da am gadw pethau mewn blychau penodol, ond dydi hynny ddim yn golygu y dylem ni dderbyn hyn.”
Cyn y penwythnos Gŵyl y Banc estynedig, pan fydd ymosodiadau’n cynyddu’n nodweddiadol, mae gweithwyr brys yn apelio ar y cyhoedd i’w trin â pharch.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i ni oll, ond nid yw hynny’n esgus i ymosod ar weithiwr brys, sy’n bobl fel chi a fi.
“Mae penwythnos Gŵyl y Banc yn golygu llu o bobl yn mwynhau’r dathlu, ac wrth i bobl yfed alcohol mae hynny’n tueddu arwain at gynnydd yn nifer yr ymosodiadau.
“Cafwyd 80 ymosodiad geiriol ar staff yr ystafell reoli ambiwlans yn ystod ail hanner y llynedd.
“Rydym ni’n gwybod ei bod yn gyfnod pryderus pan fyddwch chi’n aros am gymorth, ond nid camdrin ein hatebwyr galwadau yw’r ateb – os rhywbeth, gallai achosi oedi cyn i chi gael help.
“Yn y cyfamser, ar y ffordd, efallai na fydd gan griwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw eu diogelwch yn cael ei gyfaddawdu, ac nid yw hynny o fudd i unrhyw un, yn enwedig y claf.
“Ni fu ein dyled i’n gweithwyr brys mor fawr erioed, felly gofynnwn i chi eu trin â pharch, os gwelwch yn dda.”
Yn ystod y chwe mis dan sylw, gwnaeth bron i hanner yr ymosodiadau ar weithwyr brys ddigwydd yn Ne Ddwyrain Cymru; Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr oedd yr ardaloedd awdurdod lleol â’r mwyaf o achosion.
Yn 2021 yn ei gyfanrwydd roedd y gyfradd uchaf o ymosodiadau ar weithwyr brys yn Sir Ddinbych, sef 1.24 am bob 1,000 o boblogaeth.
Unigolion rhwng 26 a 35 oed yw’r gyfran uchaf o’r rhai sy’n cyflawni’r ymosodiadau (21.9 y cant) ac mae alcohol yn parhau i fod yn ffactor yn nhraean yr achosion.
Roedd 23 o’r achosion yn cynnwys defnyddio neu fygwth defnyddio arf, gydag wyth ohonynt wedi achosi anaf i’r dioddefwr.
Ymosodiadau ar yr heddlu sy’n cyfrif am fwy na dau draean cyfanswm y nifer. Roedd 165 o ddioddefwyr y mis ar gyfartaledd yn 2021, cynnydd o’r 152 yn 2020.
Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Bob diwrnod mae ein swyddogion yn gweithio i ddiogelu a gwasanaethu trigolion lleol a busnesau lleol.
“Nid yw dioddef trosedd casineb neu ymosodiad tra ar ddyletswydd yn dderbyniol i aelodau ein cymuned ni wrth iddyn nhw wneud eu gwaith.
“Rydym ni eisoes yn gofyn llawer o’n swyddogion a’n staff yn ystod eu diwrnod gwaith gan eu bod yn aml yn wynebu sefyllfaoedd y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio na welwn ni fyth.
“Mae gweithio lle mae’r bygythiad o ymosodiad geiriol neu gorfforol yn bosibilrwydd cynyddol yn gwneud y swydd hyd yn oed yn fwy heriol.
“Rydym ni’n gweithio’n galed i gefnogi unrhyw swyddog sydd wedi wynebu’r sefyllfa hon a byddwn yn gweithredu’n gadarn yn erbyn yr unigolion hynny sy’n achosi niwed iddyn nhw.”
Ychwanegodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Bob diwrnod mae ein swyddogion, ein staff a’n gwirfoddolwyr yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol, gan wynebu niwed er mwyn cynnal y gyfraith a diogelu’r cyhoedd.
“Mae’n rhaid iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau mor ddiogel ag y bo’n bosibl.
“Ni ddylai dioddef ymosodiad fod yn, na chael ei ystyried yn ‘rhan o’r swydd’.
“Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig sy’n achosi trallod mawr i unrhyw un, a dydi hynny ddim yn wahanol pan yw’r dioddefwr yn weithiwr brys.
“Mae’n gwbl annerbyniol iddyn nhw gael eu bygwth, eu hymosod neu eu camdrin yn eiriol neu boeri arnyn nhw – a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu holl nerth y gyfraith.
“Mae’r ymosodiad yn aros efo’r dioddefwr am weddill eu gyrfa, ac ni ddylai unrhyw un o fy swyddogion a staff orfod mynd i weithio’n gwasanaethu’r cyhoedd ac ofni cael rhywun yn ymosod arnyn nhw.
“Gyda thymor prysur yr haf bron â dechrau, parchwch a gwarchodwch ein gweithwyr brys, os gwelwch yn dda.”
Gwelwyd y nifer uchaf o ymosodiadau ar weithwyr brys ym mis Mai 2021 gyda 294 ymosodiad, yn cynyddu wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio ar draws Cymru.
Gwyddom fod mwy na 100 o achosion yn gysylltiedig â Covid-19, er enghraifft, lle bo ymosodiad wedi digwydd tra roedd yr heddlu yn delio ag achos o dorri’r rheolau Covid-19.
Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, y gwasanaeth tân a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal â staff carchar a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein gweithwyr brys yn darparu gofal achub bywyd a gofal sy’n newid bywyd bob dydd, dan amgylchiadau anodd yn aml, ac maen nhw’n haeddu cael eu trin â pharch.
“Mae unrhyw fath o ymosodiad ar ein gweithwyr brys yn gwbl annerbyniol a gall gael effaith arwyddocaol ar iechyd meddwl a llesiant unigolyn.
“Bu gweithwyr brys yn gweithio’n ddiflino ar y rheng flaen yn ystod y pandemig i gadw Cymru’n ddiogel a nawr maen nhw’n haeddu teimlo’n ddiogel a chael eu gwerthfawrogi am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud.
“Mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i leihau’r risg o wynebu ymddygaid treisgar.”
Mae mis Mai yn dynodi blwyddyn ers lansio’r ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn, a luniwyd gan y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.
Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.
Nodiadau’r Golygydd
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at Bennaeth Cyfathrebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch hi ar 07866887559.