MAE Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwahodd y cyhoedd i fwrw pleidlais yn ei seremoni wobrwyo flynyddol.
Mae pleidleisio ar agor mewn tri chategori yng Ngwobrau WAST 2022, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Ysbrydoli Eraill a Gwrandäwr Gwych.
Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Ni allem weithredu fel gwasanaeth oni bai am ein staff a’n gwirfoddolwyr, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn dathlu eu cyfraniadau.
“Yn aml, nid yw ein pobl yn sylweddoli bod yr hyn y maent yn ei wneud yn arbennig - maent yn ei weld fel rhan o'u gwaith bob dydd, felly mae Gwobrau WAST yn gyfle i oedi a myfyrio ar eu cyflawniadau a dweud diolch yn fawr.
“Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod ymrwymiad aruthrol y cyhoedd, a dyna pam y gwnaethom greu’r Wobr Cydnabod Cyhoeddus.
“Gallai fod yn wyliwr meddwl cyflym a achubodd fywyd rhywun neu rywun sydd wedi codi arian ar gyfer diffibriliwr yn eu cymuned.
“Os na wnewch chi ddim byd arall heddiw, edrychwch ar rai o’r enwebiadau syfrdanol rydyn ni wedi’u cael a helpwch ni i benderfynu ar enillydd.”
Darllenwch yr enwebiadau isod a bwrw pleidlais cyn y dyddiad cau sef 11.59pm ddydd Mercher 2 Tachwedd 2022.
Cyhoeddir yr enillwyr yng ngwobrau rhithwir WAST ym mis Tachwedd, a fydd yn cael eu ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth .
Defnyddiwch yr hashnod #WASTAwards22 i ddilyn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.
Gweler yr enwebiadau ar gyfer Gwobr y Gwrandäwr Gwych isod.
Cliciwch yma i fwrw eich pleidlais ar gyfer Gwobr y Gwrandäwr Gwych.
Gweler yr enwebiadau ar gyfer Gwobr y Gwrandäwr Gwych isod.
Cliciwch yma i fwrw eich pleidlais ar gyfer Gwobr Ysbrydoli Eraill.
Gweler yr enwebiadau ar gyfer Gwobr y Gwrandäwr Gwych isod.
Cliciwch yma i fwrw eich pleidlais ar gyfer Gwobr Tîm y Flwyddyn.