Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dathlu heddiw ar ôl ennill gwobr yng Ngwobrau GIG Cymru 2022.
Enillodd prosiect 'Peilot Gofal Brys yr Un Diwrnod y GIG', a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y wobr am Ddarparu Gwasanaethau mewn Partneriaeth ar draws GIG Cymru .
Cyflwynwyd y wobr i’r tîm y tu ôl i’r prosiect mewn seremoni a fynychwyd gan fwy na 280 o staff GIG Cymru yng Nghaerdydd neithiwr.
Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld bod Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022. Maent yn destun balchder mawr i holl staff y GIG sy’n cysegru eu bywydau i anghenion a gofal eraill. .
“Mae’r straeon ysbrydoledig am ymroddiad, dyletswydd ac arloesedd yn y modd yr ydym yn gofalu am ac yn gwella bywydau eraill mewn cyfnod mor heriol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ac yn taflu goleuni ar y staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yn gweithio i’r GIG yng Nghymru.
“Rwy’n hynod falch o fod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y GIG yng Nghymru ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi’u henwebu ac sy’n ennill gwobrau a diolch i chi am eich gwasanaeth a bod yn fodelau rôl cadarnhaol i’r GIG a phobl Cymru.”
Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan Gwelliant Cymru , sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dychwelodd y gwobrau eleni yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19. Fe'u lansiwyd yn wreiddiol yn 2008 i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu'r GIG ac i gydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru.
Noddwyd gwobrau eleni gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru , C-Stem ac Armis , Core to Cloud , Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac RCN Cymru .
Derbyniwyd ceisiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, yn dangos safon uchel y gwaith arloesol ac amrywiol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.
I ddarllen mwy am yr holl enillwyr ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk .